Frank Lloyd Wright

Pensaer Americanaidd oedd Frank Lloyd Wright (8 Mehefin 18679 Ebrill 1959).[1]

Frank Lloyd Wright
GanwydFranklin Lincoln Wright Edit this on Wikidata
8 Mehefin 1867 Edit this on Wikidata
Canolfan Richland Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ebrill 1959 Edit this on Wikidata
Phoenix Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Wisconsin–Madison
  • Madison Central High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer, cynlluniwr trefol, ysgrifennwr, cynllunydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol The New School, Manhattan Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEmil Bach House, Pettit Memorial Chapel, Annunciation Greek Orthodox Church, A. D. German Warehouse, Fallingwater, Prairie School architecture, Solomon R. Guggenheim Museum Edit this on Wikidata
TadWilliam Carey Wright Edit this on Wikidata
MamAnna Lloyd Jones Wright Edit this on Wikidata
PriodOlgivanna Lloyd Wright, Catherine Tobin Wright, Miriam Noel Wright Edit this on Wikidata
PartnerMamah Borthwick Edit this on Wikidata
PlantJohn Lloyd Wright, Lloyd Wright, Iovanna Lloyd Wright, Catherine Dorothy Wright Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Aur Frenhinol, Frank P. Brown Medal Edit this on Wikidata
llofnod

Americanwr o Wisconsin ydoedd, ond gŵr a'i wreiddiau'n ddwfn yng Nghymru. Bu'n bensaer dros 500 o brosiectau gorffenedig, yn awdur dros 20 o lyfrau pensaernïol a chynllunydd dodrefn mwyaf yr 20g. Yn 1991 fe gyhoeddodd Cymdeithas Penseiri America mai ef oedd "the greatest American architect of all time".[2]

Ar ôl dod yn bensaer galwodd nifer o'i adeiladau yn "Taliesin" (yn ogystal â'i gartref ei hun).[3][4]

O'r cartref cyntaf gafodd ei gynllunio ganddo hyd at ei farwolaeth, creodd syniadau chwyldroadol megis pensaernïaeth organig (chwedl Fallingwater), a oedd yn pwysleisio y dylai'r adeilad ffitio i mewn yn naturiol i'r ardal mae ynddo. Creodd fathau gwahanol o eglwysi, swyddfeydd, ysgolion, gwestai ayb - yn ogystal â thu fewn i'r adeiladau hyn: y dodrefn a'r ffenestri er enghraifft. Sgwennodd dros ugain o lyfrau'n ymwneud â phensaernïaeth yn ystod ei oes ac roedd yn ddarlithydd poblogaidd iawn drwy America ac Ewrop. Roedd yn berson lliwgar hefyd ac roedd ei fywyd yn llenwi papurau'r oes: methiant dwy briodas a'r tân erchyll a gynnwyd yn fwriadol yn 1914 gan ddifrodi'r Taliesin Studio - a lladd 7 o bobl.

Defnyddiodd gynllun agored yn aml, sy'n dangos ei fod yn ymateb i'r newidiadau cymdeithasol yn America; roedd y gegin er enghraifft yn aml bron yn un a'r ystafell fwyta - er mwyn i'r wraig gadw llygad ar y plant neu'r ymwelwyr tra'n coginio. Cafodd ei ddynwared gan lawer o bensaeri a'i ddilynodd - ac yn eu plith mae Mies van der Rohe. Ef oedd arweinydd y symudiad a elwir y 'Prairie School movement of architecture' (gyda Robie House a Westcott House yn esiamplau clasurol), a datblygodd y syniad o'r cartref Usonaidd ('Usonian') (gweler ei Rosenbaum House).

Y Dyddiau Cynnar golygu

Ar Ragfyr y 7ed 1844, glaniodd The Remittance yn Efrog Newydd gyda theulu o Rydowen ger Llandysul, De Cymru ar fwrdd llong: Richard a Mary (neu Mali) Lloyd-Jones a saith o blant. Un o'r plant oedd Anna. Roeddent yn gwbwl uniaith Gymraeg pan laniodd y cwch, yn ôl Jane, chwaer Anna.[5] Motto'r teulu oedd 'Y Gwir yn Erbyn y Byd', sef un o ddywediadau Iolo Morganwg. Diddorol yw nodi fod gan Iolo fab o'r enw Taliesin.

Mewn lle o'r enw Ixonia, yn anialwch Wisconsin y cartrefodd y teulu yn gyntaf, ond fe symudo nhw i ddyffryn ger Spring Green, Wisconsin yn y 1860au. Rhwng 1887 a 1917 datblygodd dwy o'i chwiorydd, sef Jane ac Ellen, ysgol flaenllaw yn y cwm (a adnabyddid fel 'Dyffryn y Jonsiaid!); Hillside Home School; athrawes hefyd oedd Anna (Anna Lloyd Jones (1838/39 – 1923). Priododd a William Carey Wright (1825 – 1904) a chawsant blentyn o'r enw Frank Lincoln Wright ar yr 8ed o Fehefin, 1867. Yn 1881 gwahanodd y rhieni a newidiodd Frank ei enw i hen enw teulu ei fam: Lloyd. Mae dylanwad ei fam i'w weld yn gryf iawn ar Frank Lloyd Wright.

Rhoddodd Anna ei fam luniau eglwysi cadeiriol ar waliau ystafell wely ei phlentyn pan oedd yn blentyn a phrynodd flociau iddo adeiladu modelau bychan. Mae'n amlwg iddi adrodd storiau o'r Mabinogi iddo hefyd, gyda chwedl Taliesin ymhlith ei ffefrynnau.

Adeiladau enwog gan Frank Lloyd Wright golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Frank Lloyd Wright Dies; Famed Architect Was 89". The New York Times (yn Saesneg). 10 Ebrill 1959. Cyrchwyd 17 Ebrill 2022.
  2. http://www.businessweek.com/bwdaily/dnflash/jul2004/nf20040728_3153_db078.htm
  3. Taliesin o wefan Sefydliad Frank Lloyd Wright
  4. "Taliesin ar wefan Taliesin Preservation Inc". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-29. Cyrchwyd 2010-03-01.
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-12-28. Cyrchwyd 2008-07-12.