Frankfurt am Main

Mae Frankfurt am Main yn ddinas yn yr Almaen. Frankfurt yw'r ddinas fwyaf yn nhalaith Hesse a'r bumed dinas yn yr Almaen o ran poblogaeth ar ôl Berlin, Hamburg, München a Cwlen, gyda poblogaeth o 670,095 yn Rhagfyr 2008.

Frankfurt am Main
Mathdinas fawr, tref goleg, canolfan ariannol, European City, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of Hesse, dinas global Edit this on Wikidata
De-Frankfurt am Main2.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth773,068 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 g Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMike Josef Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolStadtregion Frankfurt Edit this on Wikidata
SirDarmstadt Government Region Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd248.31 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr112 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Main Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaOffenbach am Main, Wetteraukreis, Main-Kinzig-Kreis, Offenbach, Main-Taunus-Kreis, Hochtaunuskreis, Groß-Gerau, Bad Vilbel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.1106°N 8.6822°E Edit this on Wikidata
Cod post60308–60599, 65929–65936 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMike Josef Edit this on Wikidata
Map

Gelwir y ddinas yn Frankfurt am Main oherwydd ei lleoliad ar Afon Main ac i'w gwahaniaethu oddi wrth y Frankfurt arall, ar Afon Oder. Fel rheol pan gyfeirir at "Frankfurt", Frankfurt am Main a olygir. Frankurt yw'r drydedd canolfan ariannol yn Ewrop ar ôl Llundain a Paris, ac yn 2001 cyhoeddwyd mai Frankfurt oedd dinas gyfoethocaf Ewrop. Mae'r maes awyr ymhlith y prysuraf yn Ewrop.

Mae hanes y ddinas yn mynd yn ôl i sefydliadau Rhufeinig yn y ganrif gyntaf. O 855 hyd 1792, Frankfurt oedd dinas etholiadol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Cafodd y ddinas ei bomio'n drwm yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a dinistriwyd y canol hanesyddol.

Treuliodd y Cymro Richard Davies (a fyddai nes ymlaen yn esgob Llanelwy ac wedyn Tyddewi) gyfnod o alltudiaeth yn y ddinas o 1555 hyd 1558 am ei grefydd.

Mae gan y ddinas nifer o dimau peldroed; yr enwocaf ohonynt yw Eintracht Frankfurt.

Mae'n adnabyddus am Ffair Lyfrau Frankfurt a gynelir yn flynyddol ers 1949 ond sydd á'u gwreiddiau yn y Canol Oesoedd.

Pobl enwog o Frankfurt am Main golygu