Llenor yn ysgrifennu yn Almaeneg oedd Franz Kafka (3 Gorffennaf 1883 - 3 Mehefin 1924).

Franz Kafka
GanwydFranz Kafka Edit this on Wikidata
3 Gorffennaf 1883 Edit this on Wikidata
Prag Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mehefin 1924 Edit this on Wikidata
o laryngeal tuberculosis Edit this on Wikidata
Kierling, Kafka Sterbehaus Edit this on Wikidata
Man preswylPrag Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCisleithania, Tsiecoslofacia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Karl-Ferdinands-Universität
  • Prifysgol Charles yn Prague
  • College of Philosophy of the Prague German University
  • Faculty of Law, German University in Prague Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd, chwedleuwr, awdur storiau byrion, gwirebwr, dyddiadurwr, cyfieithydd, cyfreithiwr, sgriptiwr, bardd-gyfreithiwr, claims adjuster, rhyddieithwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Allgemeine Unfallversicherungsanstalt
  • Assicurazioni Generali Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMetamorffosis, The Trial, The Castle, Before the Law, Lost in America Edit this on Wikidata
Arddullmoderniaeth, Ysgrif, stori fer, Pritça, nofel, flash fiction Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadHeinrich von Kleist, Gustave Flaubert, Robert Walser Edit this on Wikidata
Mudiadllenyddiaeth fodernaidd, Dirfodaeth Edit this on Wikidata
TadHermann Kafka Edit this on Wikidata
MamJulie Kafka Edit this on Wikidata
PartnerDora Diamantová Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.franzkafka.de Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd yn ninas Prâg, oedd yr adeg honno yn rhan o Awstria-Hwngari, i deulu Iddewig dosbarth-canol. Almaeneg oedd ei famiaith. O 1889 hyd 1893, aeth i'r Deutsche Knabenschule, ysgol elfennol i fechgyn, ac oddi yno i'r Altstädter Deutsches Gymnasium, gan gymeryd ei arholiad Maturita yn 1901.

Aeth i Brifysgol Charles-Ferdinand ym Mhrâg, lle dechreuodd astudio cemeg cyn newid i'r gyfraith ymhen pythefnos. Graddiodd yn 1906, ac aeth i weithio i gwmni yswiriant yn 1907. Yn y cyfnod yma, dyfeisiodd yr het galed i weithwyr diwydiannol, ac enillodd fedal am hyn. Yn 1923, symudodd i Berlin i ganolbwyntio ar ysgrifennu. Roedd wedi bod yn dioddef o'r diciau ers 1917, a chyn hir dychwelodd i Prâg cyn mynd i sanatoriwm yn Kierling ger Vienna lle bu farw yn 1924.

Gwaith golygu

Dim ond ychydig o’i waith cafodd ei gyhoeddi yn ystod ei fywyd. Cyhoeddwyd casgliadau o straeon byrion Betrachtung (Myfyrdod) ac Ein Landarzt (Meddyg cefn gwlad) a straeon unigol fel Die Verwandlung (Metamorffosis) mewn cylchgronau llenyddol ond heb gael fawr o sylw.

Mynnodd Kafka roedd ei waithiau heb eu gorffen - Der Process, Das Schloss ac Amerika i‘w cael eu dinistrio‘n llwyr gan ei ffrind Max Brod. Ond anwybyddodd Brod dymuniadau Kafka ac fe’u cyhoeddwyd ar ôl iddo farw.

Daeth waith Kafka yn hynod o ddylanwadol yn ystod ail hanner yr 20g gan ysbrydoli nifer fawr o ysgrifenwyr, beirniad, artistiaid ac athronyddion.

Yr enwocaf o'i weithiau yw'r stori fer Die Verwandlung (Metamorffosis, 1915), lle mae dyn yn deffro un bore i ddarganfod ei fod wedi troi yn fath o bryf enfawr a ffiaidd a'r nofel Der Prozeß (Y Prawf, 1925) ble mae dyn yn cael ei gyhuddo gan awdurdod biwrocrataidd dideimlad, gyda natur o’i drosedd byth yn cael ei datgelu.

Mae straeon a nofelau Kaka wedi profocio dehongliadau di-ri. Mae llawer o feirniad yn gweld ei waith fel alegorïau, mae rhai eraill wedi dadlau bod perthynas anodd Kafka a’i dad wrth wraidd ei waith. Mae eraill yn pwysleisio ei feirniadaeth o systemau gormesol a'u biwrocratwyr di-wyneb, y trais a’r creulondeb totalitariaeth.

Mae Kafka yn aml cael ei gyfrif yn nghyd-destun Dirfodaeth (Existentialist). Tra bod Swrealwyr wedi’u dennu i’w ddefnydd o’r abswrd.

Mae ei waith Die Verwandlung wedi'i addasu i lyfr i ddysgwr Cymraeg o dan y teitl 'Metamorffosis' a gyhoeddwyd gan Iawn.Cymru yn 2021.

Nofelau golygu

  • Die Verwandlung (Metamorffosis, 1915)
  • Der Prozeß (Y Prawf, 1925)
  • Das Schloß (Y Castell, 1926)
  • Amerika (1927)