Friederike Caroline Neuber

actores

Awdures ac Actores o'r Almaen oedd Friederike Caroline Neuber (9 Mawrth 169730 Tachwedd 1760) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur ac actor llwyfan.

Friederike Caroline Neuber
GanwydFriederike Caroline Weißenborn Edit this on Wikidata
9 Mawrth 1697 Edit this on Wikidata
Reichenbach im Vogtland Edit this on Wikidata
Bu farw30 Tachwedd 1760 Edit this on Wikidata
Laubegast Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethysgrifennwr, actor llwyfan Edit this on Wikidata

Bywyd personol golygu

Ganwyd Friederike Caroline Weissenborn ar y 9fed o Fawrth 1697 yn Reichenbach im Vogtland i Daniel Weissenborn a'i wraig, Anna Rosine Weissenborn, née Anna Rosine Wihelmine. Roedd ei thad yn arolygydd llys cyfreithiol ac roedd ei mam wedi'i haddysgu'n dda iawn. Ganddi hi y dysgodd Caroline sut i ddarllen ac ysgrifennu, a hi hefyd ddysgodd Ffrangeg iddi. Roedd ei thad yn ddyn gormesol a bu'n curo ei mam hyd nes ei marwolaeth gynnar ym 1705. Yn 20 oed, ym 1717, llwyddodd Caroline i redeg i ffwrdd o gartref gyda Johann Neuber, clerc a fu'n gweithio i'w thad. Priododd y cwpwl flwyddyn yn ddiweddarach, ym 1718. Bu i'r ddau ohonynt fwrw prentisiaeth theatrig gyda chwmnïau teithiol Christian Spiegelberg (1717–22) a Karl Caspar Haack (1722-25).[1][2]

Gyrfa golygu

Fe'i hystyrir yn un o'r actoresau a'r rheolwyr actorion enwocaf yn hanes theatr yr Almaen, a bu'n ddylanwadol yn natblygiad theatr fodern yr Almaen. Gweithiodd Neuber hefyd i wella statws cymdeithasol ac artistig actorion ac actoresau o'r Almaen, gan bwysleisio techneg naturiolaidd. Yn ystod cyfnod pan oedd y rhan fwyaf o reolwyr theatrig yn yr Almaen yn ddynion, cofir am Caroline Neuber fel menyw hynod uchelgeisiol a lwyddodd, yn ystod ei gyrfa 25 mlynedd, i newid hanes y theatr, gan ddyrchafu statws theatr yr Almaen ochr yn ochr â'r arweinwyr theatraidd gwrywaidd ar y pryd, fel "ei gŵr Johann", y ffŵl llwyfan poblogaidd Johann Müller, prif actor y genhedlaeth nesaf Johann Schönemann, Gotthold Ephraim Lessing, ac yn bennaf Johann Gottsched.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Caroline Neuber: German actress and manager". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 11 April 2016.
  2. Peter Kümmel, "With Anger and Courage", Die Zeit, rhif 48 (cyfieithiad Saesneg o'r Almaeneg) (online, adalwyd 11 Ebrill 2016)
  3. "Caroline Neuber: German actress and manager". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 11 Ebrill 2016.