Friedrich Schlegel

Ysgolhaig, beirniad llenyddol, ieithegwr, ac ysgrifwr Almaenig oedd Karl Wilhelm Friedrich Schlegel (10 Mawrth 177212 Ionawr 1829).[1]

Friedrich Schlegel
Portread o Friedrich Schlegel gan Franz Gareis (1801).
Ganwyd10 Mawrth 1772 Edit this on Wikidata
Hannover Edit this on Wikidata
Bu farw12 Ionawr 1829, 11 Ionawr 1829 Edit this on Wikidata
Dresden Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Hannover, Etholaeth Hannover Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, cyfieithydd, ysgrifennwr, nofelydd, beirniad llenyddol, academydd, bardd, golygydd, hanesydd, damcaniaethwr llenyddol, damcaniaethwr celf, hanesydd celf Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddullnofel, traethawd Edit this on Wikidata
MudiadRhamantiaeth, German Romanticism, Romantic literature Edit this on Wikidata
TadJohann Adolf Schlegel Edit this on Wikidata
PriodDorothea von Schlegel, Dorothea von Schlegel Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Goruchaf Crist Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Hannover, Etholyddiaeth Hannover, a oedd yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Astudiodd y gyfraith a'r clasuron yn Göttingen a Leipzig. Mae ei weithiau creadigol cynnar yn cynnwys y nofel grasboeth Lucinde (1799) a'r drasiedi Alarcos (1802).

Gyda'i frawd hŷn August Wilhelm Schlegel golygydd y cyfnodolyn Das Athenäum (1798–1800), a fu'n cyhoeddi gwaith Novalis ac eraill. Bu ysgrifau a mân-feirniadaeth Friedrich Schlegel yn Das Athenäum yn ei osod ar flaen y gad yn y mudiad Rhamantaidd Almaenig.

Mae Friedrich Schlegel yn nodedig am ei astudiaethau o hanes llenyddol, yn enwedig Geschichte der alten un neuen Literatur (1815), a'i waith ar yr iaith Sansgrit a'i barddoniaeth, Sprache und Weisheit der Inder (1808), a fu'n gyfraniad cynnar pwysig i astudiaethau Dwyreiniol yn Ewrop.

Bu farw Friedrich Schlegel yn Dresden, Teyrnas Sachsen, yn 56 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Friedrich von Schlegel. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Tachwedd 2021.