Frost/Nixon (ffilm)

ffilm ddrama am berson nodedig gan Ron Howard a gyhoeddwyd yn 2008

Mae Frost/Nixon (2008) yn ffilm ddrama hanesyddol sy'n seiliedig ar ddrama o'r un enw gan Peter Morgan, sef ysgrifennydd The Queen. Mae'r ffilm yn dramateiddio cyfweliadau teledu Frost/Nixon ym 1977. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Ron Howard a'i gynhyrchu gan Brian Grazer o Imagine Entertainment a Tim Bevan a Eric Fellner o Working Title Films ar gyfer Universal Studios. Yn y ffilm, daw ddau o actorion gwreiddiol cyhyrchiadau'r ddrama yn y West End a Broadway sef Frank Langella fel cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau Richard Nixon a Michael Sheen fel y darlledwr teledu Prydeinig David Frost. Dechreuwyd ffilmio ar y 27ain o Awst, 2007.

Frost/Nixon
Cyfarwyddwr Ron Howard
Cynhyrchydd Ron Howard
Brian Grazer
Tim Bevan
Eric Fellner
Ysgrifennwr Peter Morgan
Serennu Frank Langella
Michael Sheen
Kevin Bacon
Oliver Platt
Sam Rockwell
Matthew Macfadyen
Toby Jones
Andy Milder
Rebecca Hall
Cerddoriaeth Hans Zimmer
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Universal Studios
Dyddiad rhyddhau 23 Ionawr, 2009
Amser rhedeg 122 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg
(Saesneg) Proffil IMDb

Cast golygu

Mae pobl eraill a ddarlunir yn y ffilm yn cynnwys Diane Sawyer, Tricia Nixon Cox, Michael York, Hugh Hefner, Raymond Price a Neil Diamond. Er mwyn paratoi ar gyfer y rhan fel Richard Nixon, ymwelodd Frank Langella â Llyfrgell Arlywyddol Richard Nixon yn Yorba Linda, Califfornia a chyfwelodd nifer o bobl a oedd yn adnabod y cyn-arlywydd.[1]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni Allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm hanesyddol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.