Gair Japaniaidd ydy Futanari (二成, 二形; ふたなり, sy'n golygu, yn llythrennol: "ffurf ddeuol") ac mae'n ddisgrifiad o berson deuryw neu hermaffrodeit, ac yn ei ystyr llawnach at androgynedd.[1][1][2][3] Hyd at 1644, roedd yr apêl yma yn gryf drwy ddramâu Japaniaidd a chafwyd ffasiwn diweddar o gymeriadau futunari mewn cylchgronau a ffilmiau manga, anime a hentai.

Y ddau fath o futanari

Mae'r enw'n cyfeirio at berson sydd ag organau gwrywaidd a benywaidd. On y tu allan i Japan, defnyddir y gair i ddisgrifio genre o ffilmiau eroge, comics ac anime, gyda'u harwyr yn dangos nodweddion y ddau ryw.[1] Fel arfer, mae'r nodweddion allanol yn ferchetaidd, ond nodweddion gwrywaidd o dan y dillad.[3]

Hanes golygu

Yn wahanol i'r traddodiad Cymraeg, roedd llawer o storiau ffantasiol yn ymwneud a rhyw yn y traddodiad gwerinol Japaniaidd. Mae rhai o'r storiau hyn yn mynd yn ôl gannoedd o flynyddoedd ac yn disgrifio fel y gall rhyw person newid. Sonir hefyd am addoli duwiau ansicr eu rhywioldeb e.e.[3]y dōsojin, nad oedd yn wryw nag yn fenyw. Cred rhai haneswyr fod y storiau hyn cyn hyned a dechrau Bwdaeth ei hun.[1] Mae'r hen chwedlau hyn hefyd yn disgrifio newid yn rhywioldeb person, gyda newid yn y lloer a cheir y gair hanner-lloer (半月 hangetsu) i ddisgrifio pobl fel hyn.[3]

Roedd dillad traddodiadol Japan fwy neu lai yn unffurf rhwng y ddau ryw, gan ei gwneud hi'n anodd gwahaniaethu rhyngddynt yn aml. Er mwyn sicrhau na chai merched ddim mynediad i rai llefydd, arferid gosod archwilwyr i archwilio'r person, ac i ganfod ai dyn ynteu dynes oedd y person. Mae sawl corff o lenyddiaeth yn disgrifio'r hwyl y cai'r archwiliwr (milwr fel arfer) wrth wneud ei waith.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Leupp, Gary P.Male Colors: The Construction of Homosexuality in Tokugawa Japan, Gwasg Prifysgol Califfornia 1997, tud. 174, ISBN 9780520209008
  2. Krauss, Friedrich Salomo et al. Japanisches Geschlechtsleben: Abhandlungen und Erhebungen über das Geschlechtsleben des japanischen Volkes ; folkloristische Studien, Schustek, 1965, tud. 79, 81
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 (Almaeneg) Krauss, Friedrich Salomo et al. Japanisches Geschlechtsleben: Abhandlungen und Erhebungen über das Geschlechtsleben des japanischen Volkes ; folkloristische Studien, Schustek, 1965, tt. 79, 81
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: