Dethlir Gŵyl Galan Awst ar y cyntaf o Awst. Yn ei gwreiddiau, mae'n ŵyl Geltaidd hynafol a gafodd ei chymryd drosodd gan yr Eglwys Gristnogol yn yr Oesoedd Canol fel sawl gŵyl baganaidd arall. Gelwir hi hefyd wrth yr enw Gwyddeleg Lughnasadh (weithiau hefyd Lugnasad, sy'n cyfateb i raddau i ŵyl Lammas yn nhraddodiadau'r Alban a Lloegr).

Yn Canzo, yng ngogledd yr Eidal, mae'r trigolion lleol yn dal i ddathlu'r festa del sole ar y diwrnod yma ac felly hefyd yn y Swistir lle ceir gŵyl banc genedlaethol ar y diwrnod hwn a chynnau coelcerthi.

Lugnasad golygu

Yng Ngwyddeleg, adnabyddir Gŵyl Galan Awst fel Lughnasadh. Fe'i chysylltir â'r duw Lleu neu Lug/Lugh (yn enwedig Lug mac Ethnenn). Enw'r Rhufeiniaid ar Lyons (Ffrainc) oedd Lugudunum (Caer Lleu) a chaed Gŵyl Awgwstws yno fel dathliad o'r hen dduw Celtaidd. Felly hefyd yn Iwerddon lle parodd gŵyl Lughnasadh tan yn ddiweddar. Gŵyl yn ymwneud â goleuni ydoedd hi, ac amaethyddiaeth a chyneuwyd coelcerthi ym mhobman i'w dathlu.[1]

Dynodai Lugnasad ddechrau tymor y cynhaeaf ac fe'i dethlid gyda gwleddoedd mawr cyhoeddus. Yn ôl y Sanas Chormaic (Gloseg Cormac) gan yr esgob Cormac, cafodd Lugnasad ei sefydlu gan Lug mac Ethnenn ei hun yn y cyfnod cynhanesyddol. Cydnabyddir fod yr enw yn tarddu o enw Lugh.[1]

Lammas golygu

Dethlid gŵyl gyffelyb yn yr Alban a Lloegr wrth yr enw Lammas neu Lammas Day. Byddai pobl yn dod â thorth wedi'i gwneud o'r gwenith cyntaf i gael ei fedi i'r eglwys fel offrwm ar y 1af o Awst.[2]

Llyfryddiaeth golygu

  • M. MacNéill, The Festival of Lughnasa (Dulyn, ail arg., 1982)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Gwyn Thomas, Duwiau'r Celtiaid, Llafar Gwlad 24.
  2. J.C.J. Metford, Dictionary of Christian Lore and Legend (Llundain, 1983), d.g. Lammas Day.

Gweler hefyd golygu