Gŵyl San Steffan

Yng Nghymru, Gŵyl San Steffan yw'r dyddgwyl a ddethlir y diwrnod ar ôl y Nadolig. Mae'n coffhau'r merthyr Cristnogol cyntaf, Sant Steffan. Dethlir y dydd yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop fel gŵyl y banc neu wyliau cenedlaethol. Fe'i dethlir ar 26 Rhagfyr yng ngwledydd y Gorllewin ac ar y 27 Rhagfyr yng ngwledydd y Dwyrain. Yn Saesneg, gelwir y diwrnod yn Boxing Day ar ôl yr arfer o roi blwch ag anrheg ynddo i bobl llai ffodus. Yn Ne Affrica, gelwir y gŵyl cyhoeddus hwn yn Ddiwrnod Ewyllys Da.

Ar Ŵyl San Steffan y cynhelir gorymdaith Hela'r dryw yn Iwerddon ble caiff y diwrnod hwn ei alw'n Lá Fhéile Stiofán neu yn Lá an Dreoilín.[1][2]

Sant Steffan yw nawdd sant cenedlaethol Serbia ac fe'i cynhelir, yn unol â'r hen galendr sef Calendr Iŵl, ar 9 Ionawr. Mae'r eglwys uniongred Serbia'n parhau i ddilyn y calendr hwn.

Cyfeiriadau golygu

  1. www.piereligion.com; Archifwyd 2014-12-29 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 01 Ionawr 2014
  2. "Christmas and New Year in Ireland Long Ago".
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.