Athronydd Marcsaidd o Ganada oedd Gerald Allan "Jerry" Cohen (14 Ebrill 19415 Awst 2009) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at ysgol feddwl Marcsiaeth ddadansoddol.

G. A. Cohen
Ganwyd14 Ebrill 1941 Edit this on Wikidata
Montréal Edit this on Wikidata
Bu farw5 Awst 2009 Edit this on Wikidata
Rhydychen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCanada Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid WleidyddolCommunist Party of Canada Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd yr Academi Brydeinig Edit this on Wikidata

Ganed ym Montréal i deulu Iddewig, a gweithwyr ffatri tecstilau oedd ei rieni. Pan oedd yn fachgen 4 i 11 oed, mynychodd Ysgol Morris Winchevsky yn Toronto, ysgol Iddewig a gafodd ei rheoli gan fudiad comiwnyddol. Aeth i ysgol uwchradd wladol ac yn ei arddegau fe fu'n weithgar yn Ffederasiwn Cenedlaethol Ieuenctid Llafur, sef urdd ieuenctid y Blaid Gomiwnyddol yng Nghanada. Derbyniodd ei radd baglor o Brifysgol McGill ym 1961 ac aeth i Brifysgol Rhydychen i astudio athroniaeth dan diwtoriaeth Gilbert Ryle. Magodd gyfeillgarwch clos ag Isaiah Berlin.[1]

Bu Cohen yn ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) am 22 mlynedd. Ym 1985 fe'i penodwyd yn Athro Chichele ar bwnc damcaniaeth gymdeithasol a gwleidyddol yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen. Fe'i penodwyd yn gymrawd gan yr Academi Brydeinig ym 1985. Wedi iddo gael ei ddyrchafu'n athro emeritws yn 2008, penodwyd yn Athro Quain ar bwnc cyfreitheg yn UCL. Bu farw o strôc yn 68 oed.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Karl Marx's Theory of History: A Defence (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1978).
  • History, Labour, and Freedom (1988).
  • Self-Ownership, Freedom and Equality (1995).
  • If You're an Egalitarian, How Come You're So Rich? (2000).
  • Rescuing Justice and Equality (2008).
  • Why Not Socialism? (2009).

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Jane O'Grady, "Obituary: GA Cohen", The Guardian (10 Awst 2009). Adalwyd ar 22 Awst 2020.