Athronydd o Sais oedd G. E. Moore (4 Tachwedd 187324 Hydref 1958) oedd yn ddylanwadol yn athroniaeth Realaidd ac yn aelod o'r grŵp Bloomsbury. Ynghyd â Bertrand Russell a Ludwig Wittgenstein, fe drodd Goleg y Drindod, Caergrawnt yn ganolfan i athroniaeth ddadansoddol yn hanner cyntaf yr 20g.

G. E. Moore
Ganwyd4 Tachwedd 1873 Edit this on Wikidata
Norwood Uchaf Edit this on Wikidata
Bu farw24 Hydref 1958 Edit this on Wikidata
Caergrawnt Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
AddysgUwch Ddoethor Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • James Ward Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amEthics, Principia Ethica Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Teilyngdod, Cymrawd yr Academi Brydeinig Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni a'i fagu yn ne Llundain. "George Edward" oedd ei enwau cyntaf, ond nid oedd yn hoff o'r rhain a fe wrthododd eu defnyddio. Yn ddiweddarach, cafodd ei alw'n Bill gan ei wraig.[1] Astudiodd Glasuron yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, ac ychwanegodd athroniaeth at ei radd wedi iddo ymgyfeillio â Bertrand Russell a J. M. E. McTaggart. Enillodd gymrodoriaeth yng Ngholeg y Drindod ym 1898, ac astudiodd yno hyd 1904.

Cyhoeddodd ei brif waith ar foeseg, Principia Ethica, ym 1903. Trigodd am gyfnod yng Nghaeredin a Llundain cyn iddo ddychwelyd i Gaergrawnt ym 1911. Addysgodd fel athro athroniaeth o 1925 hyd 1939. O 1921 hyd 1944 Moore oedd golygydd y cyfnodolyn athroniaeth Mind.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "George Edward Moore", Stanford Encyclopedia of Philosophy (Prifysgol Stanford). Adalwyd ar 3 Chwefror 2018.