Sain neu gyfuniad o seiniau llafar mewn iaith sy'n cyfleu ystyr yw gair. Mae'n un o seiliau hanfodol pob iaith. Ei swyddogaeth yw rhoi enw i wrthrych neu ddynodi ansawdd, syniad, meddwl, gweithred, ac ati. Mae dau neu ragor o eiriau gyda'i gilydd yn ffurfio cymal neu frawddeg. Geirdarddiad yw'r term am y gangen o ieithyddiaeth sy'n astudio tarddiad geiriau a'u hanes.

Yn drosiadol, defnyddir yr ymadrodd "Y Gair" i ddynodi'r Ysgruthyrau Cristionogol, ac yn arbennig y Testament Newydd. Gall gair golygu "annerchiad" neu "araith" yn ogystal.

Dosbarthau o eiriau yn ôl swyddogaeth gramadegol golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am gair
yn Wiciadur.