Mynegiad o alar dwys yw galarnad a nodweddir gan deimlad o golled bersonol, cwynfan a hiraeth.

Mewn cerddoriaeth mae'n cymryd ffurf cân, sef galargan, ac mewn barddoniaeth mae'n gerdd sy'n mynegi gofid a thristwch am yr ymadawedig, sef galargerdd (math o alargerdd fwy ffurfiol a chlasurol yw'r farwnad).

Ym myd cerddoriaeth glasurol fodern, un o'r enghreifftiau mwyaf adnabyddus o alarnad ar gân yw Symffoni rhif 3 y cyfansoddwr Pwylaidd Henryk Górecki, sydd ar ffurf tair galargan annibynnol.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.