Roedd y Galatiaid yn bobloedd Celtaidd a fudodd o ardal yng nghanolbarth Ewrop, trwy'r Balcanau, i fyw yn Asia Leiaf tua 278 CC. Mae awduron Clasurol yn dweud eu bod nhw wedi'u rhannu'n dri llwyth mawr - y Tolisto(b)agii, y Trocmi a'r Tectosages - a bod y llwythau hynny yn eu tro wedi'u rhannu'n bedwar is-lwyth yr un (tetrarchau). Roedd eu hiaith, Galateg, yn debyg iawn i'r iaith Aleg a siaredid yng Ngâl.

Galatiaid
Enghraifft o'r canlynolgrwp ethnig hanesyddol Edit this on Wikidata
MathY Celtiaid Edit this on Wikidata
Rhan oY Celtiaid Edit this on Wikidata
IaithGalateg Edit this on Wikidata
LleoliadAsia Leiaf Edit this on Wikidata
GwladwriaethGalatia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
"Y Galiad clwyfedig" - copi Rhufeinig o gerflun enwog o ryfelwr Galataidd, o Bergamon (Amgueddfa'r Capitol, Rhufain)
Gweler hefyd Galatia a Galatia (gwahaniaethu).

Ymsefydlasant yng ngorllewin canolbarth Anatolia ar ôl cael eu gwahodd yno gan y brenin Nicomedes I o deyrnas Bithynia i'w gynorthwyo yn erbyn y Persiaid. Ymladdasant sawl gwaith yn erbyn brenhinoedd Pergamon; dethlir buddugoliaethau'r Pergamoniaid drsotynt mewn cyfres o gerfluniau enwog sydd wedi goroesi fel copïau Rhufeinig. Yn ddiweddarach daeth eu tiriogaeth yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig, ond dim ond ar ôl brwydr hir i gadw eu hannibyniaeth a barodd o 189 CC pan gollasant frwydr bwysig, hyd at 25 CC pan greodd yr ymerodr Augustus dalaith Galatia.

Ymddengys fod y llythyr enwog at y Galatiaid gan Sant Paul yn annerch cymunedau Cristnogol ifainc mewn rhannau gwledig o Galatia. Ymddengys fod yr iaith Alateg wedi parhau yn y parthau hynny hyd at y 3edd neu'r 4g cyn iddi gael ei disodli gan yr iaith Roeg ac ar ôl hynny Tyrceg.

Gweler hefyd golygu