Roedd Gallia Aquitania yn dalaith o'r Ymerodraeth Rufeinig yn cynnwys y tiriogaethau sydd yn awr yn dde-orllewin a chanol Ffrainc. Prifddinas y dalaith oedd Mediolanum Santonum, (Saites heddiw), yna o'r 3g Burdigala (Burdeos). Ffiniau'r dalaith oedd Afon Loire i'r gogledd, Afon Garonne i'r dwyrain, mynyddoedd y Pyrenées i'r de a'r môr i'r gorllewin.

Gallia Aquitania
MathTalaith Rufeinig Edit this on Wikidata
PrifddinasBurdigala Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
GwladRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau44.837778°N 0.579444°W Edit this on Wikidata
Map
Talaith Gallia Aguitania yn yr Ymerodraeth Rufeinig

Roedd Gallia Aquitania gyda Gallia Lugdunensis a Gallia Belgica yn un o dair talaith a grewyd gan Augustus yn 27 CC er mwyn gweinyddu Gâl, oedd wedi ei choncro gan Iŵl Cesar rhwng 58 a 51.

Yn nes ymlaen, yng nghyfnod y Tetrarchiaeth, rhannwyd Galia Aquitania yn dair talaith lai: Aquitania Primera, Aquitania Secunda a Novempopulania. Tua dechrau'r 5g meddianwyd Aquitania Secunda a Novempopulania gan y Visigothiaid, ac yn 475 cipiasant Aquitania Primera hefyd. Yn y 6g daeth y diriogaeth yn rhan o deyrnas y Ffranciaid.

Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia