Mae Gambit yn Agoriad Gwyddbwyll ble mae darn (Gwerinwr fel arfer) yn cael ei aberthu er mwyn ennill mantais yn y gêm. Pan fod du yn chwarae Gambit gelwir hyn yn aml yn Wrthgambit.

Gall chwaraewr Gwyddbwyll ennill mantais o chwarae Gambit mewn nifer o ffyrdd:

  • Ennill momentwm neu amser: bydd y chwaraewr sy'n derbyn y Gambit yn defnyddio un symudiad i wneud hynny, ac efallai y bydd yn rhaid iddo ail-drefnu ei ddarnau wedyn.
  • Ennill lle neu ofod: gall cynnig Gambit greu mwy o le ar y bwrdd i'r chwaraewr sy'n ei gynnig, gan adael iddo ddatblygu darnau yn gynt neu yn well.
  • Creu gwendidau: gall derbyn Gambit arwain at sefyllfa wael i'r chwaraewr sy'n ei dderbyn, fel dyblu Gwerinwr neu rwystro Esgob rhag datblygu.