Gandhi (ffilm)

ffilm ddrama am berson nodedig gan Richard Attenborough a gyhoeddwyd yn 1982

Ffilm fywgraffyddol o 1982 sy'n olrhain hanes bywyd Mohandas Karamchand Gandhi, arweinydd heddychlon brwydr yr India am annibyniaeth yw Gandhi. Ysgrifennwyd y sgript gan John Briley a chafodd y ffilm ei chyfarwyddo gan Richard Attenborough. Mae'n serennu Ben Kingsley fel y prif gymeriad. Rhyddhawyd y ffilm yn India ar 30 Tachwedd 1982, yn y Deyrnas Unedig ar 3 Rhagfyr ac yn yr Unol Daleithiau ar 6 Rhagfyr. Cafodd ei henwebu am Wobr yr Academi mewn unarddeg categori, gan ennill wyth ohonynt, gan gynnwys y Ffilm Orau. Enillodd Richard Attenborough y Cyfarwyddwr Gorau tra bod Ben Kingsley wedi ennill yr Actor Gorau.

Gandhi
Cyfarwyddwr Richard Attenborough
Cynhyrchydd Richard Attenborough
Ysgrifennwr John Briley
Serennu Ben Kingsley
Cerddoriaeth Ravi Shankar
George Fenton
Sinematograffeg Billy Williams
Ronnie Taylor
Golygydd John Bloom
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Goldcrest Films
National Film Development Corporation of India
Dosbarthydd Columbia Pictures
Amser rhedeg 183 munud
Gwlad Deyrnas Unedig
India
Iaith Saesneg
Cyllideb £13 miliwn[1]
Refeniw gros $52,767,889 (Gogledd America)[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Derek Malcolm (2 Rhagfyr 1982). Gandhi for beginners (Derek Malcolm reviews the new releases)
  2.  Gandhi, Box Office Information.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.