Gareth Evans

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Hirwaun yn 1980

Cyfarwyddwr, sgriptiwr ffilm, golygydd ffilm a choreograffydd acsiwn Cymreig yw Gareth Huw Evans (ganwyd 1980).[1]

Gareth Evans
GanwydEbrill 1980 Edit this on Wikidata
Hirwaun Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgolygydd ffilm, sgriptiwr, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm Edit this on Wikidata

Mae'n fwyaf adnabyddus am ddod a'r grefft ymladd pencak silat i sinema byd drwy ei ffilmiau Merantau, The Raid, a The Raid 2.[2]

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd a magwyd Evans yn Hirwaun, Cwm Cynon.[1] Graddiodd oBrifysgol Morgannwg (nawr yn Brifysgol De Cymru) gyda M.A. mewn sgriptio ffilm,[3][4] ac roedd yn gwneud bywoliaeth drwy roi cymorth i bobl ddysgu Cymraeg ar y Rhyngrwyd.[5]

Gyrfa golygu

Ar ôl cyfarwyddo ffilm cyllid bach o'r enw Footsteps, cyflogwyd Evans fel cyfarwyddwr llawrydd ar gyfer rhaglen ddogfen am y grefft ymladd Indonesaidd pencak silat.[2][5] Cafodd ei hudo gan y grefft, a darganfu y crefftwr ymladd Indonesaidd Iko Uwais, oedd yn gweithio fel dosbarthwr i gwmni ffonau.[5] Fe roddodd Evans ran i Uwais yn ei ffilm Merantau, a ryddhawyd yn 2009 a ddaeth yn llwyddiant cwlt.[5] Roedd yn cynllunio i greu ffilm acsiwn mwy o faint ond lleihaodd y cyllid cynhyrchu a chreodd y ffilm acsiwn The Raid: Redemption (2011). Ar ôl llwyddiant The Raid, fe wnaeth y ffilm acsiwn mwy ddatblygu i fod yn sail i'w olynydd, The Raid 2: Berandal (2014).[6][7]

Ers Ionawr 2015, mae Evans wedi dechrau gwaith cyn-gynhyrchu ar ffilm gangster o'r enw Blister yn ôl ei gyfrif Twitter.

Bywyd personol golygu

Mae Evans yn 6'7" (2.01m) o daldra.[7] Mae'n byw yn Jakarta gyda'i wraig, Maya, a'u merch Sophie.[1][8][9]

Ffilmyddiaeth golygu

Blwyddyn Teitl Nodiadau
2003 Samurai Monogatari Ffilm fer
2006 Footsteps
2009 Merantau
2011 The Raid: Redemption
2013 V/H/S/2 Darn: Safe Haven
2014 Killers Cynhyrchydd gweithredol
2014 The Raid 2: Berandal

Gwobrau golygu

Yn Nhachwedd 2011, enillodd The Raid: Redemption wobr "Midnight Madness" yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto.[10]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Hughes, Brendan (24 Mai 2012). "Gareth comes home for his film premiere". walesonline.co.uk.
  2. 2.0 2.1 Brown, Todd (4 Chwefror 2009). "Gareth Evans and Iko Uwais talk MERANTAU". Twitch Film. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-09. Cyrchwyd 22 Medi 2011.
  3. "'The Raid' directed by Glamorgan graduate Gareth Evans released today". University of Glamorgan. 18 Mai 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-15. Cyrchwyd 2015-12-13.
  4. Ludkin, Gareth (Mai 2012). "profile - Gareth Evans". Buzz: 22. http://content.yudu.com/Library/A1wjsq/BuzzMagMay2012/resources/22.htm.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 Wrenn, Eddie (24 Chwefror 2012). "From the valleys of Wales to the hills of Hollywood: Fledgling director Gareth Evans' meteoric rise to fame as critics praise The Raid". Daily Mail. Cyrchwyd 23 Chwefror 2012.
  6. Gareth Evans – The Raid Interview at TIFF 2011. Tribute.ca. 8 Medi 2011. Cyrchwyd 2011-10-01.
  7. 7.0 7.1 Helen Barlow (15 Mehefin 2014). "Welsh director Gareth Evans' second 'Raid' movie is an all-action expansion of the first Indonesia-filmed hit". South China Morning Post.
  8. "Director, Star of 'The Raid' Discuss the Movie". Jakarta Globe. 2 Ebrill 2012.
  9. Damon Wise (5 Mai 2012). "The Raid: how a Welsh director rocked the world of Asian action cinema". The Guardian.
  10. "Sony Pictures Classics Releasing The Raid". deadline.com. 29 Tachwedd 2011.

Dolenni allanol golygu