Actor Cymreig yw Gareth Milton. Fe raddiodd o Goleg Rose Bruford yn 2006 gyda BA Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn actio.

Gareth Milton
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg Rose Bruford Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata
Adnabyddus amY Pris Edit this on Wikidata

Mae wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu Cymraeg ar S4C, yn cynnwys rhan Ian Blake yn y ddrama gangster arobryn Y Pris;[1] Jamie Roberts yn Caerdydd (cyfres 4 a 5); Martin yn Alys; a Barry yn Pen Talar.

Daeth Milton yn fwy adnabyddus i gynulleidfa ehangach ar ôl cyd-serennu yn chwarae rhan Dr. Simon Strettle yn Crash ar BBC Wales, ysgrifennwyd gan Tony Jordan.

Yn 2010, ymddangosodd Milton ar y rhaglen deledu rhyngrwyd All Shook Up! fel Dai Jones, llaw dde'r hyfforddwr bocsio Enzo Calzaghe.

Yn 2014 ymddangosodd fel seren gwadd ym mhennod 6 ("Delyth") o gomedi drama rhamantus S4C Cara Fi. Yn hwyr yn 2014 ac yn gynnar yn 2015, ymddangosodd ar Pobol y Cwm fel Harri Wyn, nyrs gofal Meic Pierce.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Fiction Factory Archifwyd 2016-07-22 yn y Peiriant Wayback.; Adalwyd 2015-12-23

Dolenni allanol golygu