Roedd Garmon (Ffrangeg: Germain Lladin: Germanus; tua 37831 Gorffennaf 448) yn esgob Auxerre yng Ngâl. Ystyrir ef yn sant gan yr Eglwys Gatholig a'r Eglwysi Uniongred; ei ddydd gŵyl yw 31 Gorffennaf. Y brif ffynhonnell ar gyfer ei hanes yw'r fuchedd a ysgrifennwyd gan Constantius o Lyon tua 480. Roedd Constantius yn gyfaill i'r esgob Lupus, aeth gyda Garmon ar ymweliad â Phrydain.

Garmon
Ganwyd378 Edit this on Wikidata
Auxerre Edit this on Wikidata
Bu farw31 Gorffennaf 448 Edit this on Wikidata
Ravenna Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig, esgob Catholig Edit this on Wikidata
SwyddRoman Catholic Bishop of Auxerre Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl31 Gorffennaf Edit this on Wikidata
Sant Garmon (Germanus). Cerflun pren peintiedig o'r 15fed ganrif yn Eglwys Saint-Germain-L'Auxerrois, Paris.

Gyrfa golygu

Ordeiniwyd Garmon yn esgob Auxerre gan Sant Amator, ei ragflaenydd yn y swydd. Dywedir iddo fod yn gyfreithiwr ac yn llywodraethwr talaith cyn troi at yr eglwys. Tua 429, daeth y newydd fod Pelagiaeth yn ennill tir ym Mhrydain oherwydd dylanwad Agricola, mab i esgob. Mewn cyfarfod o esgobion Gâl dewiswyd Garmon a Lupus, esgob Troyes, i ymweld a Phrydain i wrthwynebu dylanwad Agricola.

Cyfarfu Germanus a Lupus gyda'r Pelagiaid mewn cyfarfod cyhoeddus mawr ym Mhrydain. Dywedir i Garmon gael y gorau ar y Pelagiaid oherwydd ei allu rhethregol. Wedi'r cyfarfod aeth Germanus a Lupus i ymweld a bedd Sant Alban, sy'n awgrymu efallai fod y cyfarfod yn Verulamium.

Tra'r oedd ym Mhrydain, arweiniodd Garmon y Brythoniaid i fuddugoliaeth yn erbyn byddin o Bictiaid a Sacsoniaid mewn brwydr a elwir yn Frwydr yr Haleliwia neu Frwydr Maesgarmon. Wedi bedyddio ei fyddin, gorchmynodd Garmon iddynt weiddi "Haleliwia", gan godi arswyd ar y gelyn nes iddynt ffoi. Yn ôl traddodiad, ymladdwyd y frwydr ar safle ger Yr Wyddgrug.

Daeth Garmon i Brydain eilwaith yn y 440au, gyda Severus, Esgob Trier. Bu farw yn Ravenna pan oedd yn apelio am drugaredd i drigolion Armorica (Llydaw), wedi i Flavius Aëtius yrru'r Alaniaid i'w cosbi. Nid oes sicrwydd am flwyddyn ei farw; gallai fod yn 445, 446, 447 neu 448. Mae ei fedd yn Eglwys yr Abaty yn Auxerre.

Eglwysi golygu

Mae nifer o eglwysi yng ngogledd Ffrainc wedi eu cysegru iddo, gan gynnwys Abaty Saint-Germain d'Auxerre yn Auxerre ac Eglwys Saint-Germain-L'Auxerrois gyferbyn a'r Louvre ym Mharis. Nid oes sicrwydd ai ef yw'r "Garmon" sy'n cael ei goffhau yn enw Betws Garmon yng Ngwynedd, Llanarmon-yn-Iâl yn Sir Ddinbych a Capel Garmon yng Nghonwy, ond mae eglwys wedi ei chysegru iddo yng Nghaerdydd. Mae eglwys Sant Harmon, gogledd Powys, yn gysegredig iddo yn ogystal, a cheir plwyf Llanarmon Mynydd Mawr ym Maldwyn.

Llenyddiaeth golygu

Garmon yw arwr y ddrama radio Buchedd Garmon gan Saunders Lewis, sy'n disgrifio ei ymweliad cyntaf a Phrydain yn 429.

Llyfryddiaeth golygu

  • E. G. Bowen, The Dedications of the Celtic Saints in Wales.

Gweler hefyd golygu