Yn ôl traddodiad, marchog medrus gydag enw am fod yn ddewr ac afreolus yw gaucho (Sbaeneg: [ˈɡautʃo]) neu gaúcho (Portiwgaleg: [ɡaˈuʃu]). Mae'r gaucho yn symbol cenedlaethol yn yr Ariannin, Brasil ac Wrwgwai. Daeth gauchos i gael eu hedmygu yn fawr trwy chwedlau, llên gwerin a llenyddiaeth ac yn rhan bwysig o'u traddodiad diwylliannol. Dechreuodd awduron De America eu clodfori o ddiwedd y 19g, yn dilyn oes aur y gauchos.

Gaucho
Mathheusor, cattle rancher Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gaucho o'r Ariannin. Ffotograffwyd ym Mheriw, 1868

Roedd y gaucho mewn rhai ffyrdd yn ymdebygu i ddiwylliannau gwledig, marchogol, y 19g fel cowbois Gogledd America (vaquero yn Sbaeneg), y huaso yn Chile, y chalan neu'r morochuco ym Mheriw,  y llanero yn Feneswela neu Colombia, y paniolo yn Hawaii,[1] y charro Mecsicanaidd neu'r campino Portiwgeaidd.

Mae nifer o ddamcaniaeth am darddiad y gair 'gaucho'. Mae'n bosb ei fod yn tarddu o'r gair Sbaeneg chaucho sy'n tarddu yn ei dro o'r term Twrcaidd am safle milwrol Chiaus, trwy'r Arabeg Shawsh a ddaeth i'w ddefnyddio wrth gyfeirio at gard neu wyliwr.[2] Daw'r cofnod cynharaf o'r term o gyfnod annibyniaeth yr Ariannin yn 1816. Posibilrwydd arall yw bod 'gaucho' yn tarddu o'r gair Portiwgeaidd gaudério a oedd yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at breswylwyr rhanbarth Rio Grande do SulRío de la Plata yn y 18g neu'r gair garrucho sy'n cyfeirio at offeryn sy'n cael ei ddefnyddio gan gauchos i ddal gwartheg. Mae'r croniclwr o'r 18g Alonso Carrió de la Vandera yn son am "Gauderios" wrth gyfeirio at Gauchos neu "Huasos" pan yn son am ddynion nad oedd wedi gwisgo'n drwsiadus.

Tarddiad arall posibl yw iaithoedd brodorol De America, fel y gair Mapudungun cauchu ("crwydryn"), kauču ("cyfaill"), neu'r gair Quechua wahcha ("crwydryn" neu "dlotyn"). Gallai hefyd darddu o'r Arabeg وحشة wahcha, sy'n golygu'r cyflwr o fod yn unig yn y diffeithwch.

Cyfeiriadau golygu

  1. Slatta, Auld and Melrose.
  2. This is rather an implausible origin given that in Spanish loanwords from Arabic, the "Gau" is often a transformation from the Arabic letter "Waw" (W).