Brenin llwyth Almaenig y Fandaliaid oedd Geiseric (tua 389 - 25 Ionawr 477). Ystyrir mai ef oedd y mwyaf o frenhinoedd y Fandaliaid.

Geiseric
Ganwyd389 Edit this on Wikidata
Llyn Balaton Edit this on Wikidata
Bu farw477 Edit this on Wikidata
Carthago Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas y Fandal Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Swyddbrenin y Fandaliaid Edit this on Wikidata
TadGodigisel Edit this on Wikidata
PlantHuneric, Gento, Theodoric Edit this on Wikidata
LlinachHasdingi Edit this on Wikidata
Geiseric yn cipio Rhufain

Roedd Genseric yn fab i'r brenin Godigisel, a ganed ef tua 389, mae'n debyg yn ardal Llyn Balaton yn Hwngari. Daeth i'r orsedd yn 427 neu 428. Yn 429 cymerodd fantais o anghydfod yn yr Ymerodraeth Rufeinig i groesi i Ogledd Affrica gyda 80,000 o wŷr. Gosodasant warchae ar ddinas Hippo Regius, lle bu Sant Awstin farw yn Awst 430 yn ystod y gwarchae. Gwnaed heddwch â'r Rhufeiniaid am gyfnod, ond ym 439 cipiodd Geiseric ddinas Carthago.

Tyfodd Teyrnas y Fandaliaid a'r Alaniaid yn deyrnas gref yn ystod teyrnasiad Geiseric. Yn 455 cipiwyd dinas Rhufain ganddynt. Dywedir i'r Pab Leo Fawr gyfarfod Geiseric tu allan i'r ddinas a'i berswadio i beidio niweidio'r trigolion, ond anrheithiwyd y ddinas. Bu farw Geiseric yn 477, a dilynwyd ef gan ei fab Huneric.