Talaith yn nwyrain yr Iseldiroedd yw Gelderland. Hi yw'r fwyaf o daleithiau'r Iseldiroedd o ran arwynebedd. Yn y gogledd-ddwyrain mae'n ffinio ar dalaith Overijssel, yn y dwyrain ar dalaith Nordrhein-Westfalen yn yr Almaen, yn y de ar Limburg a Noord-Brabant, yn y de-orllewin ar Zuid-Holland ac yn y gorllewin ar Utrecht. Yn y gogledd-orllewin mae'r Veluwemeer, gyda thalaith Flevoland yr ochr draw. Prifddinas y dalaith yw Arnhem.

Gelderland
MathTaleithiau'r Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlDuchy of Guelders, Geldern Edit this on Wikidata
PrifddinasArnhem Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,019,692 Edit this on Wikidata
AnthemOns Gelderland Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJohn Berends Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd
Arwynebedd5,136.51 ±0.01 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaFlevoland, Overijssel, Nordrhein-Westfalen, Noord-Brabant, Limburg, Utrecht, Zuid-Holland Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.083°N 5.917°E Edit this on Wikidata
NL-GE Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
King's Commissioner of Gelderland Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJohn Berends Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad talaith Gelderland yn yr Iseldiroedd

Dinas fwyaf y dalaith yw Nijmegen ac yna Apeldoorn ac Arnhem. Llifa Afon Rhein a'i changhennau, y Waal a'r IJssel trwy'r dalaith, tra mae Afon Maas yn ffurfio'r ffîn â Noord-Brabant.

Roedd poblogaeth y dalaith yn 2005 yn 1,970,865.


Taleithiau'r Iseldiroedd
Taleithiau'r Iseldiroedd GroningenFryslânDrentheOverijsselFlevolandGelderlandUtrechtNoord-HollandZuid-HollandZeelandNoord-BrabantLimburg
Eginyn erthygl sydd uchod am yr Iseldiroedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato