Gemau'r Gymanwlad 1978

Gemau'r Gymanwlad 1978 oedd yr unfed tro ar ddeg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal a'r tro cyntaf i'r teitl Gemau'r Gymanwlad gael ei ddefnyddio. Edmonton, Alberta,Canada oedd cartref y Gemau rhwng 3 - 12 Awst. Daeth y bleidlias i gynnal y Gemau yn Edmonton yn ystod Gemau Olympaidd 1972 ym München gydag Edmonton yn sicrhau 36 pleidlais a Leeds yn cael 10.

Gemau'r Gymanwlad 1978
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad1978 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd3 Awst 1978 Edit this on Wikidata
Daeth i ben12 Awst 1978 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadEdmonton Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbadminton at the 1978 Commonwealth Games Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
11fed Gemau'r Gymanwlad
Campau128
Seremoni agoriadol3 Awst
Seremoni cau12 Awst
Agorwyd yn swyddogol ganElizabeth II
X XII  >

Cafwyd boicot o'r gemau gan Nigeria mewn protest wedi i dîm Rygbi'r Undeb Seland Newydd ymweld â De Affrica, oedd â system apartheid, ym 1976. Yn dilyn y daith ddadleuol, cafwyd boicot o Gemau Olympaidd 1976 ym Montreal, Canada, gan 28 o wledydd Affrica. Arweiniodd y boicot ym Montreal at benaethiad y Gymanwlad yn arwyddo Cytundeb Gleneagles ym 1977 fyddai'n annog cymdeithasau chwaraeon i beidio gwneud cysylltiadau chwaraeon â De Affrica[1]. Er gwaethaf y cytundeb, penderfynodd Nigeria gadw draw rhag y Gemau yn Edmonton.

Ymunodd athletwyr Bangladesh, Cyprus, Sant Kitts-Nevis, Ynysoedd Caiman ac Ynysoedd Turks a Caicos â'r Gemau am y tro cyntaf ac ychwanegwyd Gymnasteg i'r rhestr o gampau.

Chwaraeon golygu

Timau yn cystadlu golygu

Cafwyd 46 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 1978 gyda Bangladesh, Cyprus, Sant Kitts-Nevis, Ynysoedd Caiman ac Ynysoedd Turks a Caicos yn ymddangos am y tro cyntaf.

Tabl Medalau golygu

 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Canada 45 31 33 109
2   Lloegr 27 27 33 87
3   Awstralia 24 33 27 84
4   Cenia 7 6 5 18
5   Seland Newydd 5 6 9 20
6   India 5 5 5 15
7   Yr Alban 3 6 5 14
8   Jamaica 2 2 3 7
9   Cymru 2 1 5 8
10   Gogledd Iwerddon 2 1 2 5
11   Hong Cong 2 0 0 2
12   Maleisia 1 2 1 4
13   Ghana 1 1 1 3
  Gaiana 1 1 1 3
15   Tansanïa 1 1 0 2
16   Trinidad a Tobago 0 2 2 4
  Sambia 0 2 2 4
18   Bahamas 0 1 0 1
  Papua Gini Newydd 0 1 0 1
20   Manu Samoa 0 0 3 3
21   Ynys Manaw 0 0 1 1
Cyfanswm 128 129 138 395

Medalau'r Cymry golygu

Roedd 75 aelod yn nhîm Cymru.

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur Berwyn Price Athletau 110m Dros y clwydi
Aur John Burns Codi Pwysau 100 kg
Arian William Watkins Saethu Calibr bychan
Efydd Jeff Bryce Codi Pwysau 100 kg
Efydd Anthony Feale Bocsio Pwysau Welter
Efydd John Russell Evans Bowlio Lawnt Senglau
Efydd Ray Williams
a James Morgan
Bowlio Lawnt Parau
Efydd Ellis Stanbury
Gwyn Evans
Ian Sutherland
a John Thomson
Bowlio Lawnt Pedwarawd

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

Rhagflaenydd:
Christchurch
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Brisbane