Gemau'r Gymanwlad 2022

Gemau'r Gymanwlad 2022 oedd yr ail dro ar hugain i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Cafodd y gemau eu cynnal yn Birmingham, Lloegr rhwng 28 Gorffennaf a 8 Awst 2022.[1] Dyma oedd y trydydd tro i'r Gemau cael eu cynnal yn Lloegr.

22in Gemau'r Gymanwlad
Seremoni agoriadol27 Gorffennaf
Seremoni cau7 Awst
XXI XXIII  >

Roedd y gemau i fod i'w cynnal yn Durban, De Affrica ond ym mis Chwefror 2017 cyhoeddwyd na fyddai'r ddinas yn gallu cynnal y Gemau wedi'r cwbwl oherwydd problemau ariannol[2] ac ym mis Mawrth 2017 agorwyd y broses o geisio dod o hyd i leoliad newydd ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2022[3]

Chwaraeon golygu

Ym mis Ionawr 2018 cyhoeddwyd na fyddai saethu yn rhan o'r Gemau yn 2022 - y tro cyntaf ers Gemau'r Gymanwlad 1970 i'r gamp peidio a chael ei chynnwys[4][5]. Cyflwynwyd pêl-fasged 3x3 a phêl-fasged 3x3 cadair olwyn am y tro cyntaf erioed[6] a cafodd criced ei gynnwys am y tro cyntaf ers Gemau'r Gymanwlad 1998 yn Kuala Lumpur, Malaysia gyda twrnament Ugain Pelawd i Ferched yn rhan o'r Gemau.[7]

Uchafbwyntiau'r Gemau golygu

Alex Yee o Loegr enillodd fedal aur cyntaf y gemau yn y triathlon i ddynion cyn i Flora Duffy o Bermuda amddiffyn ei choron yn y triathlon i ferched.[8]

Llwyddodd Duken Tutakitoa-Williams i ennill medal cyntaf yn hanes ynys Nuie yng Ngemau'r Gymanwlad wrth gipio medal efydd yn adran pwysau trwm y bocsio tra bod Alastair Chalmers wedi sicrhau medal cyntaf erioed i Guernsey ar y trac athletau wrth gipio medal efydd yn y 400m dros y clwydi.[9][10]

Y chwaraewr tenis bwrdd o Singapore, Feng Tianwei, enillodd fedal aur yn y senglau, dyblau ac fel aelod o dîm merched Singapore, gafodd ei gwobrwyo â Gwobr David Dixon yn ystod y seremon i cloi[11].

Tabl medalau golygu

 Safle  CGA Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Awstralia 67 57 54 178
2   Lloegr 57 66 53 176
3   Canada 26 32 34 92
4   India 22 16 23 61
5   Seland Newydd 20 12 17 49
6   Yr Alban 13 11 27 51
7   Nigeria 12 9 14 35
8   Cymru 8 6 14 28
9   De Affrica 7 9 11 27
19   Maleisia 7 8 8 23
Cyfanswm (29 o wledydd) 280 282 315 877

Enillwyr o Gymru golygu

Gweler Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2022

Cyfeiriadau golygu

  1. "Commonwealth Games: Birmingham announced as host of 2022 event". BBC Sport. 2017-12-21.
  2. "Commonwealth Games 2022: Durban 'may drop out as host'". BBC News. 2017-02-28.
  3. "Durban stripped of 2022 Commonwealth Games". The Sydney Morning Herald. 2017-03-14.
  4. "Optional Sports at 2022 Commonwealth Games". Around the Rings. 2018-01-18. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-23. Cyrchwyd 2018-01-20.
  5. "Birmingham 2022: Shooting dropped from Commonwealth Games" (yn Saesneg). BBC. 19 Ionawr 2018.
  6. "3x3 basketball set to make Commonwealth Games debut at Birmingham 2022" (yn Saesneg). Inside the Games.
  7. "Two years to go for Commonwealth Games, with women's cricket making debut". International Cricket Council. Cyrchwyd 28 July 2020.
  8. "Commonwealth Games 2022: Alex Yee wins triathlon gold in Birmingham's first medal event" (yn Saesneg). BBC Sport. 2022-07-29.
  9. "Boxer wins first Commonwealth Games medal for tiny island nation of Niue" (yn Saesneg). The Independent. 2022-08-05.
  10. "Chalmers secures Guernsey's first athletics medal at the Commonwealth Games" (yn Saesneg). ITV News. 2022-08-07.
  11. "Birmingham 2022 goes out on a wonderful wall of sound as Black Sabbath provide coup de theatre" (yn Saesneg). Inside the Games.

Dolenni allanol golygu

Rhagflaenydd:
Arfordir Aur
Gemau'r Gymanwlad
Birmingham
Olynydd:
I'w gadarnhau