Gemau Olympaidd y Gaeaf 2014

Trefnwyd i Ffederasiwn Rwsia gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf 2014, yr ail gystadleuaeth Gemau Olympaidd y Gaeaf ar hugain, yn Sochi o 6 hyd 23 Chwefror 2014. Cynhelir y digwyddiad aml-chwaraeon hwn yn Sochi, Rwsia.

Gemau Olympaidd y Gaeaf 2014
Enghraifft o'r canlynolGemau Olympaidd y Gaeaf Edit this on Wikidata
DyddiadChwefror 2014 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd7 Chwefror 2014 Edit this on Wikidata
Daeth i ben23 Chwefror 2014 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganGemau Olympaidd y Gaeaf 2010 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGemau Olympaidd y Gaeaf 2018 Edit this on Wikidata
LleoliadSochi, Krasnaya Polyana Edit this on Wikidata
Yn cynnwyssglefrio cyflymder yn y Gemau Olympaidd y Gaeaf 2014, curling at the 2014 Winter Olympics, cross-country skiing at the 2014 Winter Olympics, short track speed skating at the 2014 Winter Olympics, ski jumping at the 2014 Winter Olympics, Nordic combined at the 2014 Winter Olympics, ice hockey at the 2014 Winter Olympics, freestyle skiing at the 2014 Winter Olympics, bobsleigh at the 2014 Winter Olympics, skeleton at the 2014 Winter Olympics, snowboarding at the 2014 Winter Olympics, Nordic skiing at the 2014 Winter Olympics, luge at the 2014 Winter Olympics, biathlon at the 2014 Winter Olympics, alpine skiing at the 2014 Winter Olympics, figure skating at the 2014 Winter Olympics Edit this on Wikidata
Map
Gwefanhttps://olympics.com/en/olympic-games/sochi-2014 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
100 Rwbl Rwsaidd a ddosbarthwyd yn 2013 gan Fanc Ganolog Rwsia

Rhaglennwyd y cystadleuaethau i ddechrau ar y 7 Chwefror 2014, ond cynhaliwyd rowndiau agoriadol y cystadlaethau sglefrio ffigyrau, sgïo ac eirfyrddio ar noswyl y Seremoni Agoriadol, 6 Chwefror 2014. Trefnwyd y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd y Gaeaf 2014 gan Bwyllgor Trefnu Sochi. Dewiswyd Sochi fel y ddinas i gynnal y Gemau yng Ngorffennaf 2007, yn ystod 119eg sesiwn y Gweithgor Olympaidd Rhyngwladol yn Ninas Gwatemala. Dyma'r Gemau Olympaidd cyntaf i gael eu cynnal yn Rwsia ers i'r Undeb Sofietaidd gael ei ddileu yn 1991. Yr Undeb Sofietaidd gynhaliodd Gemau Olympaidd yr Haf 1980 ym Moscow.

Cynhelir 98 cystadleuaeth mewn 15 maes chwaraeon Gaeafol gwahanol yn y Gemau. Bydd nifer o gystadlaethau eraill - cyfanswm o 12 ohonynt yn cael eu cynnal yn y Gemau, yn cynnwys ras gyfnewid cymysg biathlon, neidio-sgi, timoedd cymysg ar gyfer sglefrio ffigyrau, y car llusg, sgïo hanner-piben a sgïo slalom cyfochrog. Cynhelir y digwyddiadau hyn o amgylch dau glwstwr o leoliadau newydd; Parc Olympaidd sydd wedi'i adeiladu yn Nyffryn Imeretinsky, Sochi ar lannau'r Môr Du, gyda Stadiwm Olympaidd Fisht a'r lleoliadau dan-do o fewn pellter cerdded ar droed tra cynhelir y digwyddiadau eira yKrasnaya Polyana.

Tra'n paratoi, canolbwyntiodd y trefnwyr ar foderneiddio'r systemau delegyfathrebu, pŵer trydan a thrafnidiaeth yn yr ardal. Cost gwreiddiol y Gemau oedd $12 biliwn (Americanaidd), ond achosodd ffactorau amrywiol i'r gost gynyddu i dros $51 biliwn. Golyga hyn eu bod wedi gwario mwy na chost Gemau Olympaidd 2008 yn Beijing a gostiodd $44 biliwn, gan wneud Gemau Sochi y drutaf erioed.

Ystyriwyd cefndir y Gemau yn ddadleuol, gyda chyhuddiadau o lwgrwobrwyo a arweiniodd at gynnydd yng nghost y Gemau, pryderon ynglŷn â hawliau dynol athletwyr a chefnogwyr lesbiadd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn sgîl cyfyngiadau ar hyrwyddo perthynasau rhywiol LHDT (sydd wedi arwain at brotestiadau) ac amryw o bryderon diogelwch ynglŷn â bygythiadau gan grwpiau jihadaidd sy'n gysylltiedig â'r Gwrthryfel yng Ngogledd Caucasus.

Cyfeiriadau golygu