Gemau Olympaidd y Gaeaf 2022

24dd Gemau Olympaidd y Gaeaf, ym Meijing, Tseina, mis Chwefror 2022

Trefnwyd i Tsieina gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf 2022 (Tsieineaidd: 第二十四届冬季奥林匹克运动会; pinyin: Dì Èrshísì Jiè Dōngjì Àolínpǐkè Yùndònghuì), y 24ydd Gemau Olympaidd y Gaeaf, yn Beijing o 4 hyd 20 Chwefror 2022.[1]

Olympic Winter Games
Dinas,
Arwyddair起向未来; Yīqǐ xiàng wèilái (Gyda'n gilydd ar gyfer dyfodol a rennir)
Gwledydd sy'n cystadlu91
Athletwyr sy'n cystadlu2,871
Agorwyd yn swyddogol ganXi Jinping, Arlywydd Tsieina
Cynnau'r FflamDinigeer Yilamujiang a Zhao Jiawen

Roedd y Gemau 2022 cafwyd ei hadnabod yn gyffredinol fel Beijing 2022 (北京2022), ac yr roedd yn ddigwyddiad aml-chwaraeon gaeafol rhwngwladol cafodd ei gynnal rhwng y 4ydd o Chwefror tan yr 20fed ym Meijing, Tsieina, ac ardaloedd lleol, gyada'r cystadlu mewn cystadlaon pennodol yn cychwyn ar yr 2ail o Chwefror.[2]

Cafodd Beijing ei ddewis fel y safle cynnal yn ystod yr 128fed IOC Sessiwn yn Kuala Lumpur, Maleisia, yr ail waith mae'r ddinas wedi cynnal y gemau, ac yr safle olaf allan o'r tair diweddaraf sy'n cael eu cynnal yn Nwyrain Asia. Ar ôl cynnal Gemau Olympaidd yr Haf 2008 yn flaenorol, ddoth Beijing y ddinas cynaf i gynnal y gemau Olympaidd Haf ac Gaeaf. Roedd y lleoliadau ar gyfer y Gemau yn cylchu'r ddinas, megis maestrefi'r Yanqing District, yn ogystal â Zhangjiakou, gyda ychydig o ddiwgyddiadau (yn cynnwys curling a'r seremoniau) yn defnyddio lleoliadau cafwyd ei aduladu yn wreiddiol ar gyfer Beijing 2008 (er enghraifft Stadiwm Cenedlaethol Beijing a'r Beijing National Aquatics Centre).

Roedd y Gemau yn cynnwys 109 o ddigwyddiadau (y mwyaf eirioed) ar draws 15 o ddisgylblaetholion, gyda sgio freestyle a monobob menywod yn cael eu gynnal am y tro cyntaf yn ogystal â rhagor o gystadlaeon cymysg. Roedd cyfanswm o 2,871 o athletwyr yn cynrychioli 91 o dimau yn cystadlu, gyda Haiti a Saudi Arabia yn cystadlu yn y gemau gaeafol am y tro cyntaf.

Codwyd y penderfyniad i alluogi Beijing i gynnal sawl pryderon a sawl dadleuon yn gysylltiedig a Tseinia yn torri sawl ddef hawliau dynol, megis Hil-laddiad yr Wigwriaid, yn arwain at alwadon i foicotio'r gemau. [3] [4] Fel Gemau Olympaidd yr Haf a gynhaliwyd chwe mis ynghynt yn Tokyo, arweiniodd pandemig COVID-19 at weithredu protocolau iechyd a diogelwch, gan gynnwys cyfyngiadau ar bresenoldeb y cyhoedd yn y Gemau, yn ogystal â diffyg cyfranogiad rhai cenhedloedd.

Y tîm mwyaf llwyddiannus ar y tabl medal roedd Norwy, am yr ail waith, yn ennill cyfanswm o 37 o fedalau, 16 ohonynt yn aur, yn gosod record newydd am y nifer o fedalau aur a enillwyd yn y Gemau.[5] Ddoth Tsiena yn drydydd, gyda 9 medal aur a chyfanswm o 11, ei ymdrech mwyaf llwyddiannus mewn gem Olympaidd gaeafol.[5]

Chwaraeon golygu

Torrodd y gemau'r record gyda 109 o ddigwyddiadau gyda dros 15 o ddisgyblaethau mewn saith o chwaraeon,[6] roedd yna 7 o gystadlaethau newydd yn cynnwys ‘big air Freestyle’ a ‘Bobsled menywod’.[7]

Mae'r niferoedd mewn cromfachau yn dangos nifer y medalau a ymleddir ym mhob disgyblaeth.

  • Sgïo alpaidd (11)
  • Biathlon (11)
  • Bobsleigh (4)
  • Sgïo traws gwlad (12)
  • Cyrlio (3)
  • Sglefrio ffigwr (5)
  • Sgïo dull rhydd (13)
  • Hoci iâ (2)
  • Luge (4)
  • Cyfuniad Nordig (3)
  • Sglefrio cyflum trac byr (9)
  • Sgerbwd (2)
  • Sgïo neidio (5)
  • Eirafyrddio (11)
  • Sglefrio cyflym (14)

Bwrdd medalau golygu

Y tîm mwyaf llwyddiannus ar y tabl medal roedd Norwy, am yr ail waith, yn ennill cyfanswm o 37 o fedalau, 16 ohonynt yn aur, yn gosod record newydd am y nifer o fedalau aur a enillwyd yn y Gemau.[8]. Ddoth yr Almaen yn ail gyda 12 aur a chyfanswm o 27 medal yn gyfan gwbl gyda Tsiena yn dod yn drydydd gyda 9 medal aur, yr ymdrech mwyaf llwyddiannus mewn hanes y gemau gaeafol.[5] Y nifer ail fwyaf o fedalau a enillwyd roedd y tîm roedd yn cynrychioli’r POR (Saesneg: ROC), gyda chyfanswm o 32 ond fe ddoth yn 9fed ar y tabl medalau oherwydd roedd dim ond 6 o’r medalau yn aur. Er enillwyd 26 o fedalau, roedd dim ond 4 o fedalau Canada, tîm gaeafol traddodiadol o lwyddiannus, yn aur, yn gorffen i fyny tu allan i’r 10 top am y tro cyntaf ers 1988.[9][10]

Yn ystod y broses o fidio, cwestiynwyd bid Beijing, yn dadlau bod y lleoliadau tu allan ddim yn derbyn cwymp eira dibynadwy ar gyfer chwaraeon gaeafol. Dywedwyd efallai y bydd rhaid cludo eira, yn codi costau ariannol ac ansicrwydd o ran canlyniadau amgylcheddol.

Codwyd rhagor o bryderon yn ystod y gemau. Roedd yr athletwraig o Sweden, Frida Karlsson bron a chwympo o ganlyniad i dymherodd isel.[11] Yn dilyn hyn, roedd y Swediaid yn ystyried rhoi ymgais i symyd y digwyddiadau yn gynharach yn y dydd oherwydd roedd y prynhawniau a’r nosweithiau cynnar ar gyfer gynulleidfa teledu Ewropeaidd yn tarfu ar berfformiad yr athletwyr. [12]

Yn debyg i 2008, bu galwadau  i foicotio’r Gemau Olympaidd pan gânt eu cynnal gan Weriniaeth Pobl Tsieina. Yn dilyn gollyngiad 2019 o bapurau Xinjiang, protestiadau Hong Kong 2019–20, a hil- laddiad Uyghur, [13][14] roedd yna alwadau am boicot o Gemau 2022.[15] [16][17] Oherwydd y materion hyn, cafwyd ymateb cymysg wrth ddewis athletwr o Xinjiang fel rhan o'r cludwyr terfynol.[18] [19] [20]


Cyfeiriadau golygu

  1. "2022 Winter Olympics officially begin". BBC Sport (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Chwefror 2022. Cyrchwyd 4 Chwefror 2022.
  2. "SuperSport". supersport.com (yn Zhuang). Cyrchwyd 2022-02-25.
  3. Reyes, Yacob (8 Rhagfyr 2021). "Beijing Olympics: These countries have announced diplomatic boycotts". Axios. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Chwefror 2022. Cyrchwyd 5 Chwefror 2022.
  4. Allen-Ebrahimian, Bethany; Baker, Kendall (1 Chwefror 2022). "The IOC stays silent on human rights in China". Axios. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Chwefror 2022. Cyrchwyd 5 Chwefror 2022.
  5. 5.0 5.1 5.2 Church, Ben (20 Chwefror 2022). "Norway tops Beijing 2022 medal table after record-breaking performance". CNN. Atlanta, Georgia. Cyrchwyd 22 Chwefror 2022.
  6. "Athletes to compete in 109 events of 7 sports at Beijing Winter Olympics". Helsinki Times. Helsinki, Finland. 18 Rhagfyr 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2021.
  7. Zaccardi, Nick (18 Gorffennaf 2018). "Beijing 2022 Winter Olympics add seven new events". Olympics.nbcsports.com/. NBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Hydref 2021. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2021.
  8. Church, Ben (20 Chwefror 2022). "Norway tops Beijing 2022 medal table after record-breaking performance". CNN (yn Saesneg). Atlanta, Georgia. Cyrchwyd 22 Chwefror 2022.
  9. Donna, Spencer (20 Chwefror 2022). "Canada caps COVID Olympic Winter Games in Beijing with 26 medals, including 4 gold". www.cbc.ca/ (yn Saesneg). CBC Sports. Cyrchwyd 22 Chwefror 2022.
  10. "Canada finish outside medals top 10 for the first time in 34 years". Diario AS (yn Saesneg). Madrid, Sbaen. 20 Chwefror 2022. Cyrchwyd 22 Chwefror 2022.
  11. "Beijing 2022: Winter Olympics hit by a deluge of complaints from athletes". BBC News (yn Saesneg). London, United Kingdom. 8 Chwefror 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Chwefror 2022. Cyrchwyd 11 Chwefror 2022.
  12. Nasralla, Shadia (6 Chwefror 2022). "Alpine skiing-Cold food riles Germany coach, the U.S. bring own pasta". Reuters (yn Saesneg). London, United Kingdom. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Chwefror 2022. Cyrchwyd 11 Chwefror 2022.
  13. Westcott, Ben (2 Rhagfyr 2019). "Huge leaks are exposing Xinjiang's re-education camps. But don't expect Beijing to back down". edition.cnn.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Medi 2020. Cyrchwyd 26 Chwefror 2020.
  14. Bandler, Kenneth (17 Awst 2020). "The Uyghers' plight is a humanitarian crisis. More must be done to help". Jerusalem Post (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Awst 2020. Cyrchwyd 17 August 2020. 'It is a genocide,' says Turkel, adding that the 'purposeful prevention of population growth' is one of the legal definitions of genocide. 'In the last year, Uyghur population growth dropped by 24%, and in the previous three years by 84%.' ... If there is no significant change in Chinese government policy regarding the Uyghurs, Turkel would like to see the US boycott the Winter Olympics in Beijing in 2022.
  15. Karlik, Evan (8 Awst 2019). "The Case for Boycotting Beijing 2022". The Diplomat (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mai 2020. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2019.
  16. Montgomery, Marc (10 Mehefin 2020). "Boycott the 2022 China Winter Olympics?". Radio Canada International. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 August 2020. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2020.
  17. Shih, Gerry (8 Hydref 2020). "Beijing is planning to host another Olympics. Clashes over human rights are back, too". The Washington Post (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2020.
  18. Buckley, Chris; Das, Andrew (4 Chwefror 2022). "In a provocative choice, China picks an athlete with an Uyghur name to help light the cauldron". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Chwefror 2022. Cyrchwyd 4 Chwefror 2022.
  19. Munroe, Tony; Xu, Muyu; Tétrault-Farber, Gabrielle (4 Chwefror 2022). "Opening ceremony ends with Uyghur skier lighting cauldron". Reuters (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Chwefror 2022. Cyrchwyd 4 Chwefror 2022.
  20. Chappell, Bill (4 Chwefror 2022). "The Beijing Winter Olympics' cauldron lighting made a political statement". NPR (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Chwefror 2022. Cyrchwyd 4 Chwefror 2022.