Gemau Olympaidd yr Haf 1900

Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1900 (Ffrangeg: Jeux olympiques d'été de 1900) digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r II Olympiad rhwng 14 Mai a 28 Hydref yn Paris, Ffrainc.

Gemau Olympaidd yr Haf 1900
Enghraifft o'r canlynolGemau Olympaidd yr Haf Edit this on Wikidata
Dyddiad1900 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd14 Mai 1900 Edit this on Wikidata
Daeth i ben28 Hydref 1900 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan1896 Summer Olympics Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1904 Edit this on Wikidata
LleoliadParis Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://olympics.com/en/olympic-games/paris-1900 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cafodd Paris ei ddewis fel lleoliad y Gemau yn ystod cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol yn Sorbonne, Paris ar 24 Mehefin 1894. O dan orychwyliaeth Pierre de Coubertin penderfynwyd dewis Paris er mwyn cydfynd â Ffair y Byd fyddai'n cael ei gynnal yn y ddinas yn yr un flwyddyn.[1]

Mae cryn drafodaeth ynghylch y nifer o wledydd fu'n cystadlu yn y Gemau ym 1900 gan fod rhai cystadlaethau tîm yn cynnwys athletwyr o fwy nag un wlad. Yn ôl yr IOC 24 o wledydd oedd yn bresenol ond mae ymchwil modern yn awgrymu fod 28 o wledydd wedi eu cynrychioli[2][3]. Yn ogystal, roedd nifer o gystadlaethau timau, gan gynnwys Rygbi'r Undeb, Polo dŵr a Tynnu rhaff yn cynnwys athletwyr o fwy nag un wlad.

Y Gemau golygu

Dyma'r unig Gemau lle cafwyd cystadleuaeth criced. Llwyddodd Prydain Fawr i drechu Ffrainc yn yr unig gêm yn y gystadleuaeth er mwyn cipio'r fedal aur.[4]

Cafwyd cystadleuaeth Rygbi'r Undeb am y tro cyntaf yn y Gemau Olympaidd gyda'r Almaen, Ffrainc a Prydain Fawr yn cystadlu. Dim ond dwy gêm a gafwyd wrth i Ffrainc drechu'r Almaen a Phrydain er mwyn casglu'r fedal aur gyda'r Almaen a Phrydain yn cael medal arian.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "1900 Summer Olympics". Olympedia.
  2. Mallon, Bill (1998). The 1900 Olympic Games, Results for All Competitors in All Events, with Commentary. Jefferson, North Carolina: McFarland & Company, Inc. tt. 25–28. ISBN 978-0-7864-4064-1.
  3. "Paris 1900 – Medal Table". International Olympic Committee. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 August 2008. For the first Olympic Games (until Antwerp in 1920), it is difficult to give the exact number of medals awarded to some countries, due to the fact that teams were composed of athletes from different countries.
  4. "Cricket at the 1900 Summer Olympics". Olympedia.
  5. "Paris 1900 Rugby Men Results". Olympics.com. Cyrchwyd 2021-08-02.