Gemau Olympaidd yr Haf 1904

Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1904, digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r III Olympiad rhwng 1 Gorffennaf a 23 Tachwedd yn St. Louis, Missouri, Unol Daleithiau America. Cynhaliwyd y Gemau ar gampws Prifysgol Washington yn St. Louis. Dyma'r tro cyntaf i'r Gemau Olympaidd gael eu cynnal tu allan i Ewrop.

Gemau Olympaidd yr Haf 1904
Enghraifft o'r canlynolGemau Olympaidd yr Haf Edit this on Wikidata
Dyddiad1904 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1 Gorffennaf 1904 Edit this on Wikidata
Daeth i ben23 Tachwedd 1904 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1900 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1908, 1906 Intercalated Games Edit this on Wikidata
LleoliadFrancis Olympic Field, St. Louis, Missouri Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://olympics.com/en/olympic-games/st-louis-1904 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Chicago oedd wedi eu dewis yn wreiddiol gan yr IOC ond gan fod St. Louis yn cynnal Ffair y Byd gwnaeth y ddinas gais i gynnal y Gemau Olympaidd hefyd ac ym mis Rhagfyr 1902 pleidleisiodd yr IOC o blaid y newid[1].

Oherwydd tensiynau yn dilyn y rhyfel rhwng Ymerodraethau Rwsia a Siapan a thrafferthion teithio i St. Louis dim ond 62 o'r 651 vathletwr oedd yn ddim yn dod o America neu Canada. Mae dryswch dros faint o wledydd fu'n cystadlu gydag athletwyr oedd wedi mudo i America yn cael eu cyfri fel Americanwyr er eu bod dal yn ddinasyddion o'u mamwlad[2][3][4].

Y Gemau golygu

Gwnaeth paffio ei ymddangosiad cyntaf yn y Gemau Olympaidd yn St. Louis gyda'r Unol Daleithiau yn ennill pob un o'r medalau oedd ar gael[5] a cafodd golff ei gynnwys yn y Gemau Olympaidd am y tro olaf hyd nes 2016 yn Rio de Janeiro.

Cyfeiriadau golygu

  1. "1904 Summer Olympics". Olympedia.
  2. "Italy at the 1904 St. Louis Summer Games". Sports Reference. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-17.
  3. "Norway at the 1904 St. Louis Summer Games". Sports Reference. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-17.
  4. "Newfoundland at the 1904 St. Louis Summer Games". Sports Reference. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-17.
  5. "Boxing at the 1904 Olympic Games". Olympedia.