Gemau Olympaidd yr Haf 1936

Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol pwysig oedd Gemau Olympaidd yr Haf 1936, a adnabyddwyd yn swyddogol fel Gemau'r XI Olympiad. Fe'u cynhaliwyd ym Merlin, Yr Almaen. Enillodd Berlin gyda'u cais i gynnal y gemau, gan guro Barcelona, Sbaen yn y bleidlais ar 26 Ebrill 1931, yn 29fed Eisteddiad y POR ym Marcelona (dyflwydd cyn i'r Natsïaid ddod i bŵer yn yr Almaen). Hon oedd yr ail waith, a'r tro olaf i'r Pwyllgor Olympiaidd Rhyngwladol ymgynnull mewn dinas a oedd yn cynnig cynnal y gemau. Yr unig dro arall y digwyddodd hyn oedd yn yr Eisteddiad cyntaf ym Mharis, Ffrainc, ar 24 Ebrill 1894.

Gemau Olympaidd yr Haf 1936
Enghraifft o'r canlynolGemau Olympaidd yr Haf Edit this on Wikidata
Dyddiad1936 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1 Awst 1936 Edit this on Wikidata
Daeth i ben16 Awst 1936 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1932 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1940 Edit this on Wikidata
LleoliadBerlin Olympic Stadium, Berlin Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethYmerodraeth yr Almaen Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://olympics.com/en/olympic-games/berlin-1936 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dyma'r tro cyntaf y dewiswyd o'r cynigion gan ddefnyddio pleidleisiau gan aelodau'r POR dros eu hoff gynnig.[1] Dyma oedd canlyniad y bleidlais.

Canlyniad Pleidlais Gemau Olympaidd yr Had 1936
Dinas POC Cymal 1
Berlin Gweriniaeth Weimar, Yr Almaen 43
Barcelona Sbaen 16

Comisiynwyd y crewr ffilmiau Leni Riefenstahl, ffefryn Hitler, gan y POR i ffilmio'r Gemau. Cyflwynodd y ffilm, Olympia, nifer o dechnegau ffilmio sydd erbyn hyn yn gyffredin i ffilmio chwaraeon.

Hybodd Hitler ei gred ideolegol o oruchafiaeth hiliol drwy adael i bobl o dras Ariaidd yn unig i gynyrchioli'r Almaen. Ar yr un adeg, tynnwyd arwyddion i lawr yn y prif atyniadau ymwelwyr o gwmpas Berlin, a oedd yn dweud "Iddewon yn ddi-angen" ac arwyddeiriau eraill tebyg. Mewn ymgais i "lanhau" Berlin, rhoddodd Gweinyddiaeth Mewnol yr Almaen ganiatad i bennaeth yr heddlu arestio pobl Romani (sipsiwn) a'u cadw yn y ddalfa mewn gwersyll arbennig.[2] Gorchmynnwyd swyddogion Natsïaidd na ddylai ymwelwyr o dramor cael eu cyfyngu gan gyfraith troseddol gwrth-gyfunrywiol.

Derbyniwyd cyfanswm o 7.5 miliwn Reichsmark am docynnau'r gemau, gan greu elw o dros miliwn mark. Nid oedd y cyllid swyddogol yn cynnwys gwariant dinas Berlin (a gyhoeddodd adroddiad wedi ei eitemeiddio, yn nodi costau o 16.5 miliwn mark) na gwariant llywodraeth yr Almaen (ni chyhoeddwyd yn gyhoeddus, ond amcangyfrifwyd i fod tua $UDA 30 miliwn).[3]

Y dylanwad Natsïaidd ar ddewis a defnydd y chwaraeon golygu

Trefniadaeth golygu

Hans von Tschammer und Osten, oedd y Reichssportführer, sef pennaeth y Deutscher Reichsbund für Leibesübungen (DRL), Swyddfa Chwaraeon y Reich, a chwaraeodd rôl blaengar yn strwythur a threfniant y Gemau Olympaidd hyn. Hybodd y cysyniad y buasai defnyddio chwaraeon yn gallu caledu yr ysbryd Almaenig a chreu undod ymysg ieuenctid yr Almaen. Ar yr un adeg, credodd y byddai chwaraeon yn fodd o "chwynu allan y gwan, yr Iddeweg, a phobl eraill annymunol".[4] Gwaharddwyd nifer o Iddewon a Sipsiwn rhag cymryd rhan yn y chwaraeon.

 
Giat y Stadiwm Olympaidd, Berlin

Rhoddodd Von Tschammer y cyfrifoldeb am ofalu am drefniadau a manylion y gemau i Theodor Lewald a Carl Diem, cyn-lywydd ac ysgrifennydd y Deutscher Reichsausschuss für Leibesübungen, rhagflaenydd Swyddfa Chwaraeon y Reich. Ymddangosodd Diem yn gymwys iawn, gan gyflwyno nifer o syniadau gwreiddiol, megis taith gyfnewid y Ffagl Olympaidd o Athen, sy'n dal i cael ei werthfawrogi hyd heddiw.[5]

Jesse Owens golygu

Roedd cyfranogaeth Jesse Owens yn y gemau yn ddedleuol oherwydd ei dras, mewn cyfnod pan oedd gwahaniad a gwahaniaethu yn erbyn y bobl duon yn gyffredin yn y rhan fwyaf o'r Unol Daleithiau. Ond, unwaith gyrrhaeddodd Owens Belin, roedd yn rhydd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a mynd i mewn i dafarndai a chyfleusterau cyhoeddus eraill heb wynebu'r trafferthion y buasai wedi eu hwynebu fel dyn du yn yr Unol Daleithiau.

Ymatebodd Owends i adroddiadau y gwrthododd Hitler ysgwyd ei law ac osgoi gydnabod ei fuddugoliaethau. gan ddweud "Pan wnes i fynd heibio i'r Canghellor fe gododd, a chwifiodd ei law ata i, a chwifiais i yn ôl. Dwi'n meddwl fod yr ysgrifenwyr wedi dod yn ddi-chwaeth wrth feirniadu dyn yr awr yn yr Almaen".[6] Dywedodd hefyd "Ni ddirmygodd Hitler fi - FDR oedd yr un a ddirmygodd fi. Anfonodd yr arlywydd ddim telegram ataf i hyd yn oed."[7] Er na longyfarchodd Hitler Owens yn uniongyrchol, ni longyfarchodd unrhyw chwaraewr arall ychwaith (gan gynnwys y rhai a gynyrchiolodd yr Almaen) ar ôl y diwrnod cyntaf, gan ddilyn canllawiau'r POR y dylid gadw safbwynt Olympaidd niwtral. Ond, mi wnaeth Hitler adael y Stadiwm Olympaidd yn gynnar cyn i chwaraewr Americanwr-Affricanaidd arall, Cornelius Johnson, fod yn barod i dderbyn ei fedal.[8]

Er hynny, yn breifat, cododd dirmyg Hitler tuag at Owens a'r hiliau a oedd ef yn eu hystyried yn 'israddol', pan nad oedd mewn sefyllfa lle roedd rhaid cadw ymddygiad niwtral. Cofnododd Albert Speer, pensaer Hitler a gweinidog arfau rhyfel yn ddiweddarach, yn ei atgofion Inside the Third Reich:

"Each of the German victories and there were a surprising number of these made him happy, but he was highly annoyed by the series of triumphs by the marvelous colored American runner, Jesse Owens. People who's antecedents came from the jungle were primitive, Hitler said with a shrug; their physiques were stronger than those of civilized whites and hence should be excluded from future games. Hitler was also jolted by the jubilation of the Berliners when the French team filed solemnly into the Olympic Stadium......If I am correctly interpreting Hitler's expression at the time, he was more disturbed than pleased by the Berliners' cheers."[9]

Roedd y dorf Almaenig yn addoli Owens, ac fe ddaeth Owens yn ffrind tymor-hir gyda'i gyd-gystadleuydd, Luz Long.[10]

Boicotio golygu

Cyn ac yn ystod y gemau, roedd cryn ymryson a thrafodaeth y tu allan i'r Almaen, ynglŷn â a ddylid cynnal neu gymryd rhan ynddynt.

Trafodaethau boicotio yn yr Unol Daleithiau golygu

Ymysg y rhai a fynegodd eu barn yn ystod y trafodaethau, oedd yr Americanwyr Avery Brundage, Ernest Lee Jahncke, a Judge Jeremiah Mahoney. Ystyriodd yr Unol Daleithiau foicotio'r gemau gan gredu y gallai cymryd rhan yn y gemau gael ei ystyried fel arwydd o gefnogaeth i'r gyfundrefn Natsïaidd a'i bolisiau gwrth-Semitig. Ond dadleuodd eraill na ddylai'r Gemau adlewyrchu unrhyw safbwyntiau gwleidyddol, ond yn hytrach y dylent fod yn gystadleuaeth ar gyfer y chwaraewyr gorau yn unig.

Roedd Avery Brundage, o'r Pwyllgor Olympaidd Americanaidd yn gwrthwynebu'r boicot, gan ddatgan fod y chwaraewyr Iddewig yn cael eu trin yn deg, ac y dylai'r gemau barhau. Roedd Brundage yn credu nad oedd gan wleidyddiaeth rôl i'w chwarae yn chwaraeon, ac na ddylid byth cysylltu'r ddau. Dywedodd y buasai "sylfaen yr adfywiad olympaidd yn cael ei danseilio pe bai cenhedloedd unigol yn cael cyfyngu'r cyfranogaeth oherwydd dosbarth, tras neu hil."[11] Roedd Brundage hefyd yn credu fod yna gynllwyn gan y gymuned Iddewig i atal yr Unol Daleithiau rhag gymryd rhan yn y gemau.[12]

Roedd Jeremiah Mahoney, llywydd yr Undeb Athletau Americanaidd, yn cefnogi boicot o'r gemau. Arweiniodd ef olygyddion y papurau newydd a grŵpiau gwrth-Natsiaidd mewn protestiadau yn erbyn cyfraniad yr Unol Daleithiau yng Ngemau Olympaidd Berlin. Dadleuodd fod gwahaniaethu hiliau yn torri rheolau'r Gemau Olympaidd ac y buasai cymryd rhan yn y gemau yn gyfwerth a chefnogi'r Trydydd Reich.

Roedd y rhan fwyaf o bapurau newydd Americaneg-Affricanaidd yn cefnogi cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd. Roedd Tribune Philadelphia a'r Chicago Defender yn cytuno y buasai buddugoliaethau gan chwaraewyr duon yn tanseilio barn y Natsïaid ynglŷn â goruchafiaeth Ariaidd ac yn sbarduno adnewyddiad ym malchder Americaneg-Affricanaidd. Roedd sefydliadau Iddewig Americanaidd ar y llaw arall, yn gyffredinol yn gwrthwynebu'r Gemau Olympaidd. Cynhaliodd y Cyngres Iddeweg Americanaidd a'r Pwyllgor Llafur Iddeweg raliau yn cefnogi boicotio cynnyrch Almaenig i ddangos eu diystyrwch tuag at gyfraniad Americanaidd.[12]

Enillodd Brundage y ddadl yn y pen draw, gan wneud i'r Undeb Athletau Amatur bleidleiso o blaid anfon tîm Americanaidd i Ferlin, ac enillodd o ddwy bleidlais a hanner yn unig. Methodd ymdrech Mahoney i greu boicot yn yr Unol Daleithiau. Mynnodd yr Arlywydd Roosevelt y dylai'r Unol Daleithiau gymryd rhan, gyda'r bwriad o gadw'r traddodiad Americanaidd o beidio a chael eu dylanwadu gan eraill.

Roedd gan Gemau Olympaidd yr Haf 1936, y nifer fwyaf erioed o genhedloedd yn cymryd rhan. Ond dewisodd rhai chwaraewyr foicotio'r gemau yn unigol, gan gynnwys yr Americanwyr Iddewig Milton Green a Norman Canners.

Y boicot Sbaeneg golygu

Cafodd y Gemau eu boicotio gan lywodraeth Sbaen hefyd. Arweiniwyd y boicot gan blaid y Popular Front a oedd newydd cael ei hethol, a threfnwyd Olympiad y Bobl fel digwyddiad cyd-amserol ym Marcelona. Cofrestrodd 6,000 o chwaraewyr o 22 gwlad i gymryd rhan yn y gemau hyn, ond ni chynhaliwyd hwy oherwydd dechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen y diwrnod cyn roedd y gemau i fod cychwyn.

Chwaraeon golygu

 
Y pwll nofio heddiw.

Cynhaliwyd y chwaraeon canlynol yn y gemau hyn.

Dyma oedd y tro cyntaf i bêl fasged a phêl llaw cael eu chwarae yn y Gemau Olympaidd. Ni chwaraewyd pêl llaw eto tan 1972.

Chwaraeon arddangos golygu

Cyfranogaeth golygu

 
Dengys y cenhedloedd a gymerodd ran am y tro cyntaf mewn glas.

Fe fynychodd timau o 49 cenedl Gemau Olympaidd Berlin, o'i gymharu â 37 yn 1932. Ymddangosodd chwe cenedl yn y gemau yn swyddogol am y tro cyntaf: Affganistan, Bermuda, Bolifia, Costa Rica, Liechtenstein, a Periw.

Tabl medalau golygu

Dyma'r deg cenedl a enillodd y nifer fwyaf o fedalau yn y gemau hyn.

 Safle  Gwlad Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Yr Almaen (cenedl gwestai) 33 26 30 89
2   UDA 24 20 12 56
3   Hwngari 10 1 5 16
4   Yr Eidal 8 9 5 22
5   Y Ffindir 7 6 6 19
  Ffrainc 7 6 6 19
7   Sweden 6 5 9 20
8   Japan 6 4 8 18
9   Yr Iseldiroedd 6 4 7 17
10   Prydain Fawr 4 7 3 14

Cyfeiriadau golygu

Nodiadau golygu

  1.  Olympic Vote History.
  2.  The Facade of Hospitality. United States Holocaust Memorial Museum. "In a move to "clean up" Berlin before the Olympics, the German Ministry of Interior authorized the chief of the Berlin Police to arrest all Gypsies prior to the Games. On Gorffennaf 16, 1936, some 800 Gypsies were arrested and interned under police guard in a special Gypsy camp in the Berlin suburb of Marzahn."
  3. Nodyn:Dyf cylchgrawn
  4. Nazification of Sport Archifwyd 2013-06-07 yn y Peiriant Wayback.
    :"way to weed out the weak, Jewish, and other undesirables."
  5.  Chris Bowlby (5 Ebrill 2008). The Olympic torch's shadowy past. BBC.
  6. "When I passed the Chancellor he arose, waved his hand at me, and I waved back at him. I think the writers showed bad taste in criticizing the man of the hour in Germany.”
  7. "Hitler didn't snub me—it was FDR who snubbed me. The president didn't even send me a telegram."
  8.  Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. History News Network. "The facts are simple. Hitler did not congratulate Owens, but that day he didn't congratulate anybody else either, not even the German winners. As a matter of fact, Hitler didn't congratulate anyone after the first day of the competition. That first day he had shaken hands with all the German victors, but that had gotten him in trouble with the members of the Olympic Committee. They told him that to maintain Olympic neutrality, he would have to congratulate everyone or no one. Hitler chose to honor no one."
  9. Speer, Albert. Inside the Third Reich p.73
  10.  Adolf Hitler, Jesse Owens and the Olympics Myth of 1936.
  11.  Boycott.
    :“The very foundation of the modern Olympic revival will be undermined if individual countries are allowed to restrict participation by reason of class, creed, or race.”
  12. 12.0 12.1  The Nazi Olympics.

Darllen pellach golygu

  • Susan D. Bachrach, The Nazi Olympics: Berlin 1936 (United States Holocaust Museum)
  • James P. Barry, The Berlin Olympics (World Focus Books)
  • Duff Hart-Davis, Hitler's Games: The 1936 Olympics
  • Christopher Hilton, Hitler's Olympics: The 1936 Berlin Olympic Games
  • William O. Johnson, Jr., All That Glitters is Not Gold
  • Julius (gol.), Olympische Spiele Berlin / Olympic Games 1936: Erinnergunsalbum / Album-Souvenir unter dem Patronat des schweizerischen Olympischen Komitees
  • Arnd Kruger a W. J. Murray, The Nazi Olympics: Sport, Politics, and Appeasement in the 1930s
  • Richard D. Mandell, The Nazi Olympics (Sport and Society)
  • Guy Walters, Berlin Games: How Hitler Stole the Olympic Dream

Dolenni allanol golygu