Gemau Olympaidd yr Haf 1948

Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol pwysig oedd Gemau Olympaidd yr Haf 1948, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r XIV Olympiad. Fe'i cynhaliwyd yn Llundain, Lloegr, o 29 Gorffennaf hyd 14 Awst 1948. Wedi seibiant o 12 mlynedd oherwydd yr Ail Ryfel Byd, rhain oedd Gemau Olymaidd yr Haf cyntaf i gael eu cynnal ers Gemau 1936 yn Berlin. Roedd Gemau 1940 wedi cael eu cynllunio ar gyfer Tokyo, ac yna Helsinki; ac roedd Gemau 1944 i fod wedi cael eu cynnal yn Llundain. Dyma oedd yr ail dro i Lundain gynnal y Gemau Olympaidd, wedi i'r ddinas fod yn lleoliad ar gyfer 1908. Dychwelodd y Gemau i Lundain eto yn 2012.

Gemau Olympaidd yr Haf 1948
Enghraifft o'r canlynolGemau Olympaidd yr Haf Edit this on Wikidata
Dyddiad1948 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd29 Gorffennaf 1948 Edit this on Wikidata
Daeth i ben14 Awst 1948 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1944 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1952 Edit this on Wikidata
LleoliadStadiwm Wembley, Llundain Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://olympics.com/en/olympic-games/london-1948 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfeiriadau golygu