Gemau Olympaidd yr Haf 1960

Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1960 (Eidaleg Giochi Olimpici estivi del 1960) digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r XVII Olympiad rhwng 25 Awst a 11 Medi Gorffennaf a 23 Tachwedd yn Rhufain, yr Eidal. Roedd Rhufain wedi ennill yr hawl i gynnal Gemau 1908 ond yn dilyn ffrwydriad Mynydd Vesuvius ym 1906 bu rhaid ildio'r anrhydedd i Lundain[1][2].

Gemau Olympaidd yr Haf 1960
Enghraifft o'r canlynolGemau Olympaidd yr Haf Edit this on Wikidata
Dyddiad1960 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd25 Awst 1960 Edit this on Wikidata
Daeth i ben11 Medi 1960 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan1956 Summer Olympics Edit this on Wikidata
Olynwyd gan1964 Summer Olympics Edit this on Wikidata
LleoliadStadio Olimpico, Rhufain Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://olympics.com/en/olympic-games/rome-1960 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dewis lleoliad golygu

Llwyddodd Rhufain i ennill yr hawl i gynnal y Gemau mewn pleidlais yng nghyfarfod y IOC ym Mharis ar 15 Mehefin 1955. Lausanne oedd yn ail yn y bleidlais gyda Brwsel, Budapest, Detroit, Dinas Mecsico a Tokyo hefyd yn gwneud cais.[3].

Y Gemau golygu

Dyma'r Gemau Olympaidd olaf i Dde Affrica ymddangos tra bod y wlad yn cael ei llywodraethu o dan system apartheid. Gwrthododd yr IOC i'w gwahodd i gystadlu ar ôl Gemau 1960 hyd nes Gemau 1992 yn Barcelona.

Cafwyd arthlewtwyr o Morocco, San Marino, Swdan, a Tiwnisia yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf. Dyma oedd yr unig Gemau Olympaidd i weld tîm o Ffederasiwn India'r Gorllewin wrth i'r wladwriaeth, oedd yn bodoli rhwng 1958 a 1962, uno 10 o diriogaethau'r Caribî gan gynnwys Barbados a Jamaica oedd wedi cystadlu fel gwledydd ar wahan ers 1948[4]

Roedd athletwyr o Orllewin yr Almaen a Dwyrain yr Almaen yn cystadlu fel un tîm am yr ail Gemau Olympaidd yn olynol.

Methodd tîm trac dynion yr Unol Daleithiau â sicrhau'r fedal aur yn y 100m[5], 200m[6] na'r ras gyfnewid 4x100m[7] am y tro cyntaf yn hanes y Gemau Olympaidd[2]

Medalau'r Cymry golygu

Llwyddodd David Broome, Cymro o Gaerdydd i ennill medal efydd yn y gystadleuaeth Neidio ceffylau[8] gyda Nick Whitehead o Wrecsam yn ennill efydd fel aelod o dîm ras gyfnewid y 4x100m[9].

Cyfeiriadau golygu

  1. "1908 Summer Olympic Games". Olympedia.
  2. 2.0 2.1 "1960 Summer Olympic Games". Olympedia.
  3. "IOC VOTE HISTORY". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 May 2008. Cyrchwyd 11 June 2008.
  4. "West Indies Federation at the Olympic Games". Olympedia.
  5. "1960 Summer Olympic Games Men's 100m". Olympedia.
  6. "1960 Summer Olympic Games Men's 200m". Olympedia.
  7. "1960 Summer Olympic Games Men's 4x100m". Olympedia.
  8. "David Broom". Olympedia.org.
  9. "Nick Whitehead". Olympedia.org.