Gemau Ymerodraeth Prydain 1934

Gemau Ymerodraeth Prydain 1934 oedd yr ail dro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Llundain, Lloegr oedd cartref y Gemau rhwng 4-11 Awst, ond cynhaliwyd y cystadlaethau beicio ym Manceinion.

Gemau Ymerodraeth Prydain 1934
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad1934 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd4 Awst 1934 Edit this on Wikidata
Daeth i ben11 Awst 1934 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadLlundain Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ail Gemau Ymerodraeth Prydain
Campau68
Seremoni agoriadol4 Awst
Seremoni cau11 Awst
I III  >

Roedd y Gemau i'w cynnal yn wreiddiol yn Johannesburg, De Affrica ond yn dilyn pryderon ynghylch agwedd negyddol llywodraeth y wlad tuag at bobl ddu fe symudwyd y Gemau i Lundain ym 1933.

Cafwyd cystadlaethau athletau i ferched am y tro cyntaf yn Llundain.

Chwaraeon golygu

Timau yn cystadlu golygu

Cafwyd 17 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig, 1934 gyda Gweriniaeth Iwerddon yn cystadlu am yr unig dro yn eu hanes

Tabl Medalau golygu

 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Lloegr 29 20 24 73
2   Canada 17 25 9 51
3   Awstralia 8 4 2 14
4   De Affrica 7 10 5 22
5   Yr Alban 5 4 17 26
6   Seland Newydd 1 0 2 3
7   Gaiana Brydeinig 1 0 0 1
8   Cymru 0 3 3 6
9   Gogledd Iwerddon 0 1 2 3
10   Jamaica 0 1 1 2
11   De Rhodesia 0 0 2 2
12   India 0 0 1 1
Cyfanswm 68 68 68 204

Medalau'r Cymry golygu

Roedd 35 aelod yn nhîm Cymru.

Medal Enw Cystadleuaeth
Arian J.D. Jones Bocsio Pwysau plu
Arian Albert Barnes Bocsio Bantam
Arian Frank Taylor Bocsio Pwysau ysgafn
Efydd Jackie Pottinger Bocsio Pwysau pry
Efydd Thomas Davies
a Stan Weaver
Bowlio Lawnt parau
Efydd Valerie Davies Nofio 100llath ar ei chefn

Dolenni allanol golygu

Rhagflaenydd:
Hamilton
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Sydney