Gemau Ymerodraeth Prydain 1938

Gemau Ymerodraeth Prydain 1938 oedd y trydydd tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Sydney, De Cymru Newydd, Awstralia oedd cartref y Gemau rhwng 5-12 Chwefror.

Gemau Ymerodraeth Prydain 1938
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad aml-chwaraeon, digwyddiad mewn cyfres Edit this on Wikidata
Dyddiad1938 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd5 Chwefror 1938 Edit this on Wikidata
Daeth i ben12 Chwefror 1938 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadSydney Edit this on Wikidata
Yn cynnwysrowing at the 1938 British Empire Games Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Trefnwyd y gemau i gyd fynd gyda dathlu 150 mlynedd ers y sefydliad Prydeinig swyddogol cyntaf yn Awstralia.

Oherwydd y dirwasgiad a chost teithio i Awstralia, ni chafwyd cymaint o athletwyr â gafwyd yng Ngemau Llundain, 1934 ac er na chafwyd unrhyw gynrychiolaeth o Hong Cong, Jamaica na Newfoundland cafwyd athletwyr o Ceylon a Ffiji am y tro cyntaf.

Cafodd cystadlaethau rhwyfo eu hychwanegu i'r Gemau ar ôl peidio cael eu cynnwys yn Llundain.

Penderfynwyd cynnal Gemau Ymerodraeth Prydain 1942 ym Montréal, Canada, a Gemau 1946 yng Nghaerdydd, Cymru ond oherwydd yr Ail Ryfel Byd, ni chynhaliwyd y Gemau eto tan 1950.

Chwaraeon golygu

Timau yn cystadlu golygu

Cafwyd 15 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig, 1934 gyda Ffiji a Ceylon yn ymddangos am y tro cyntaf a chyda Trinidad a Tobago yn cystadlu fel tîm unedig.

Tabl Medalau golygu

 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Awstralia 25 19 22 66
2   Lloegr 15 15 10 40
3   Canada 13 16 15 44
4   De Affrica 10 10 6 26
5   Seland Newydd 5 7 13 25
6   Cymru 2 1 0 3
7   Ceylon 1 0 0 1
8   Yr Alban 0 2 3 5
9   Guiana Prydeinig 0 1 0 1
10   De Rhodesia 0 0 2 2
Cyfanswm 71 71 71 213

Medalau'r Cymry golygu

Roedd 35 aelod yn nhîm Cymru.

Llwyddodd Jim Alford i dorri record y Gymanwlad wrth ennill ras y filltir mewn 4 munud 11.6 eiliad a cipiodd Denis Reardon aur yn y sgwâr bocsio. Ar y pryd roeddent yn cael eu hystyried fel y Cymry cyntaf i ennill medalau aur yn y Gemau, ond bellach, mae Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru yn ystyried medal aur Reg Thomas, Cymro enillodd ras y filltir tra'n gwisgo fest Lloegr yn 1930, fel medal Gymreig.[1]

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur Jim Alford Athletau 1milltir
Aur Denis Reardon Bocsio Pwysau canol
Arian Jeanne Greenland Nofio 100llath ar ei chefn

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

Rhagflaenydd:
Llundain
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Auckland