Genootskap van Regte Afrikaners

Cymdeithas yr Gwir Affricaniaid

Ffurfiwyd y Genootskap van Regte Afrikaners (Afrikaans ar gyfer "Cymdeithas y Gwir Affricaniaid") ar 14 Awst 1875 yn nhref Paarl gan grŵp o siaradwyr Afrikaans o ranbarth presennol Wes Kaaps (Western Cape). Ar 15 Ionawr 1876 cyhoeddodd y gymdeithas gyfnodolyn yn Afrikaans o'r enw Die Afrikaanse Patriot ("Y Gwladgarwr Afrikaans") yn ogystal â nifer o lyfrau, gan gynnwys gramadeg, geiriaduron, deunydd crefyddol a hanes. Dilynwyd Die Afrikaanse Patriot ym 1905 gan bapur newydd Paarl.[1]

Blaendalen Die Afrikaanse Patriot, cylchgrawn a gyhoeddwyd gan y GRA yn 1875

Sefydlwyr golygu

 
SJ du Toit, Coleg Diwynyddol Stellenbosch, tua 1870

Yn gyffredinol ystyrir Arnoldus Pannevis, athro, yn dad ysbrydol y gymdeithas. Roedd wedi sylwi na allai y rhan fwyaf o'r Dde Affricaniaid o ddisgyniad Iseldired siarad ffurf "bur" o'u mamiaith gwreiddiol bellach. Yn ystod ei hanes (yna) 200-mlwydd-oed, roedd iaith y mewnfudwyr o'r Iseldiroedd wedi cael ei newid yn drylwyr gan ddylanwad mewnfudwyr Ewropeaidd eraill, llwythau cynhenid ​​megis y Khoikhoi, ac yn enwedig y Cape Malays. Yn 1874 mynegodd Pannevis y safbwyntiau hyn yn y cylchgrawn de Zuid-Afrikaan[2] dan y teitl "Is die Afferkaans wesenlijk een taal?" (Ydy Afferkaans [sic.] yn ei hanfod yn iaith).[3]

Yr wyth aelod sefydliadol oedd:[4]

  • Gideon Malherbe
  • CP Hoogenhout (ymfudwr o'r Iseldiroedd athro, llenor a bardd, 32 oed)
  • DF du Toit (a adnabwyd fel 'Doktor')
  • DF du Toit arall, a enwyd yn Oom Lokomotief, 'Wncwl Locomotif' (athro, newyddiadurwr, 29 oed)
  • ei frawd, SJ du Toit (gweinidog, 27 oed)
  • August Ahrbeck (myfyriwr, 24 oed)
  • Petrus Malherbe (ffarwr a chadwr gwynllan, 22 oed)
  • SG du Toit (myfyriwr, 20 oed)

Roedd pawb heblaw Hoogenhout ac Ahrbeck yn perthyn i'w gilydd. Roedd llawer o'r rhain o ddisgynyddion o'r Hiwgenotiaid.

Ar 14 Awst 1975 agorwyd Amgueddfa Iaith Afrikaans yn hen dŷ Gideon Malherbe yn nhref Paarl, yr adeilad y sefydlwyd y Gymdeithas ynddi. Agorwyd Cofeb Iaith Afrikaans hefyd yn Paarl ym 1975, y Taalmonument, gan goffáu 100 mlynedd ers sefydlu'r Gymdeithas.

Nod ac arwyddair golygu

Arwyddair: "Om te staan vir ons Taal, ons Nasie en ons Land." "I sefyll dros ein hiaith, ein Cenedl a'n Gwlad."

Nod:

  • I gyfieithu'r Beibl Iseldireg safonol, (Statenbijbel) i'r Afrikaans
  • Cyhoeddi cylchgrawn Die Afrikaanse Patriot yn fisol
  • Paratoi iaith Afrikaans safonnol a geiriadur

Cân: Ieder nasie het sy land ("Pob cenedl ei thir").

C.P. Hoogenhout, un o'r aelodau sefydliadol ac ail gadeirydd y gymdeithas, yn 1879 y nofel gyntaf yn Afrikaans, Catharina, die dogter van die advokaat ("Catharina, merch y Cyfreithiwr").

Fodd bynnag, cyfarfu aelodau Genootskap Regte Afrikaners yn gyfrinachol oherwydd bod y cyhoedd yn gwrthwynebu'r syniad o iaith ysgrifenedig Afrikaans a ddim am wyro oddi ar iaith safonol Iseldireg.

Cofebau iaith golygu

 
Cofeb Iaith 1af, codwyd 1893, Burgersdorp, i'r Iseldireg
 
Taalmonument, Paarl, yr ail gofeb i'r iaith Afrikaans

Y Gofeb iaith Gyntaf golygu

Dadorchuddiwyd yr heneb iaith gyntaf yn Burgersdorp ar 18 Ionawr 1893 ac mae'n garreg filltir yn hanes iaith Afrikaans. Gelwir yr heneb iaith gyntaf yn gofeb i'r iaith Iseldireg, nid Afrikaans. Roedd dal amwysedd ai iaith arwahan oedd Afrikaans, ac os oedd, a dylid hyrwyddo felly, neu chadw at un iaith safonol unedig h.y. Iseldireg.

Ail Gofeb Iaith - Cofeb y Taalmonument golygu

Agorwyd Cofeb Iaith Affricanaidd, y Taalmonument ar 14 Awst 1975 yn hen dŷ Gideon Malherbe (y ffarmwr ac un o sylfaenwyr y GFA, fel nodir uchod). Gelwir yr heneb hon hefyd yn yr Ail Gofeb Iaith. Cwblhawyd y Taalmonument yn 1975 i goffáu hanner canrif o gydnabyddiaeth swyddogol Afrikaans fel iaith annibynnol ar wahān i'r Iseldiroedd. Ceir yno heddiw amgueddfa, arddangosfeydd, bwyty a threfnir gweithgareddau aml-ddiywlliannol yn ymwneud â'r iaith, ei diwylliant a'i hanes.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Paarl Post: About us". Paarl Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-15. Cyrchwyd 2011-05-29.
  2. H.J.J.M van der Merwe: Herkoms en Ontwikkeling van Afrikaans. Johannesburg: Afrikaanse Pers-Boekhandel, 1970, bl. 54
  3. English translation: Is Afrikaans actually a language; modern Afrikaans translation: "Is Afrikaans eintlik 'n taal?"
  4. Amanda Kreitzer. "Agtergrondartikel Die Genootskap van Regte Afrikaners" [Background to the Association of True Afrikaaners]. De Roepstem - Die Roepstem (yn Afrikaans). Cyrchwyd 2011-02-03.CS1 maint: unrecognized language (link)