George Armstrong (peiriannydd)

Roedd George Armstrong (5 Ebrill 182211 Gorffennaf 1901) yn beiriannydd rheilffordd Seisnig, yn cynllunio locomotifau stêm ar gyfer Rheilffordd y Great Western yng Ngweithdy Heol Stafford, Wolverhampton, rhwng 1864 a 1897. Roedd ei frawd hŷn, Joseph Armstrong, yn beiriannydd gyda'r un rheilffordd. Roedd George yn enwog am ei locomotifau tanc 0-4-2 and 0-6-0.[1] Goroesant dros gyfnod hir, a chawsant eu disodli gan locomotifau tebyg iawn, cynlluniwyd gan Charles Collett a Frederick Hawksworth; Dosbarth 1400 GWR, Dosbarth 5700 GWR a Dosbarth 1600 GWR[2].

George Armstrong
Ganwyd1822 Edit this on Wikidata
Bu farw1901 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeiriannydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Bywyd golygu

Ganwyd George Armstrong ar 5 Ebrill 1822. Roedd ei deulu yng Nghanada rhwng 1817 a 1824 felly ganwyd ef yno. Mae’n debyg y symudodd y teulu i Newburn ger Newcastle-on-Tyne. Gwelodd o’r locomotif Puffing Billy pan oedd o’n ifanc. Dechreuodd waith gweithio gyda’r Peirianydd Robert Hawthorn yng Nglofa Walbottle pan oedd o’n 14 oed.


Aeth o gyda’i frawd Joseph Armstrong i Hull i fod yn beiriannyddion ar Reilffordd Hull a Selby, ac wedyn aethant i Weithdy Brighton ar Reilffordd Llundain a Brighton. Wedyn aeth George i Ffrainc a gweithiodd ar Chemin de Fer du Nord. Gorfodwyd gan yr heddlu i gynorthwyo, adeiladu barricades yn ystod y Chwyldro Ffrengig 1848 ym Mharis. Daeth Armstrong yn ôl i Loegr i fod yn wrrwr injan ar Reilfordd Amwythig a Chaer yn Saltney, ac wedyn fforman locomotifau. Symudodd i Weithdy Heol Stafford, Wolverhampton ym 1853. Daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffordd y Great Western ym1854 ac roedd Heol Stafford yn gifrifol am gynnal y cerbydau a locomotifau lled safonol. Roedd Joseph Armstrong yn Brif Beiriannydd yno, gyda chynorthwy ei frawd fel rheolwr y gweithdy.


Symudodd Joseph i Weithdy Swindon ym 1864, a daeth George yn brif beiriannydd yn Heol Stafford, gyda chymorth William Dean. Aeth George i Ffrainc eto ym 1870 i roi cyngor peiriannol ynglŷn â’r Rhyfel Ffrainc a Phrwsia ac roedd rhaid iddo amddiffyn walia Paris gyda rheiffl. Ac eithrio ailadeiladu locomotifau eraill, adeiladodd Armstrong ond ychydig o locomotifau 2-4-0 neu 0-6-0 yn gynnar yn ei yrfa yn Wolverhampton.[3] Yn hwyrach, canolbwyntiodd ar locomotifau tanc 0-6-0 neu 0-4-2, gan gynnwys y dosbarthiadau 517 a 645. Rheolodd y gweithdy am 33 mlynedd; adeiladodd 626 o locomotifau ac ailadeiladodd 513.


Ymddeolwyd George ym 1897 a bu farw ym Wolverhampton ar 11 Gorffennaf 1901.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan steamindex.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-05. Cyrchwyd 2021-01-30.
  2. Gwefan rmweb.co.uk
  3. Holcroft 1953, t. 86.