George Augustus Frederick Paget

gwleidydd (1818-1880)

Roedd y Cadfridog yr Arglwydd George Augustus Frederick Paget KCB (16 Mawrth 1818 - 30 Mehefin 1880), yn filwr Prydeinig yn ystod Rhyfel y Crimea a chymerodd ran yng nghyrch enwog The Charge of the Light Brigade[1]

George Augustus Frederick Paget
Yr Arglwydd George Paget gan "Spy" yn Vanity Fair 13 Hyd 1877
Ganwyd16 Mawrth 1818 Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mehefin 1880 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadHenry William Paget Edit this on Wikidata
MamCharlotte Paget Edit this on Wikidata
PriodAgnes Charlotte Paget, Louisa Heneage Edit this on Wikidata
PlantCecil Stratford Paget, Charles Paget Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Cadlywydd Urdd y Baddon Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Roedd George yn fab ieuengaf Henry William Paget, Ardalydd 1af Môn gan ei ail wraig y Fonesig Charlotte, merch Charles Cadogan, Iarll 1af Cadogan.

Gyrfa filwrol golygu

 
Paget yn y Crimea

Gwasanaethodd Paget yn Rhyfel y Crimea gan ymladd ym mrwydrau Alma a Balaclava. Mae'n cael ei ddyfynnu yn aml am ei gyfeiriad at sïon parhaus bod ymosodiadau gan Rwsia ar Benrhyn y Crimea ar fin digwydd: Mae pob ffŵl yn y canolfannau allanol, sydd yn ffansïo ei fod wedi clywed rhywbeth, dim ond yn gorfod gwneud ffws, ac yno yr ydym i gyd yn Gadfridogion a phawb ... Wel mae'n debyg bod 500 o alwadau ffug yn well nag un syndod. A hynny toc cyn i'r Rwsiaid ymosod ar eu gwersyll. Mae o hefyd yn enwog am fynd ar gyrch y Light Brigade wrth ysmygu cheroot (math o sigâr fach oedd yn cael ei ffafrio gan filwyr a wasanaethodd yn yr India).[2]

Aelod Seneddol golygu

Ar wahân i'w yrfa filwrol bu Paget yn cynrychioli etholaeth Biwmares fel Aelod Seneddol rhwng 1847 a 1857. Fe'i gwnaed yn Farchog Cadlywydd Urdd y Baddon (KCB) ym 1870.

Priodasau golygu

Priod cyntaf Paget oedd ei gyfnither Agnes Charlotte, merch Syr Arthur Paget, bu iddynt briodi ym 1854. Bu iddynt ddau fab. Ar ôl ei marwolaeth hi ym mis Mawrth 1858, chwe diwrnod ar ôl genedigaeth eu plentyn ieuengaf. Ei ail briod oedd Louisa Elizabeth, merch Charles Fieschi Heneage, bu iddynt briodi ym 1861. Bu farw Paget ym mis Mehefin 1880 yn 62 mlwydd oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.victorianweb.org/history/crimea/paget.html adalwyd 27 Rhagfyr 2014
  2. THE LATE LORD GEORGE PAGET. Aberystwyth Observer — 10 Gorffennaf 1880 Papurau Cymru arlein [1] adalwyd 27 Rhag 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Frederick Paget
Aelod Seneddol dros Biwmares
18471857
Olynydd:
William Owen Stanley