George Avery Young

Roedd George Avery Young (23 Mehefin 1866 - 21 Ionawr 1900) yn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol Cymreig o dras Seisnig a chwaraeodd rygbi clwb i Gaerdydd a enillodd dau gap rhyngwladol i Gymru. Bu hefyd yn chwarae criced i Forgannwg. [1]

George Avery Young
Ganwyd23 Mehefin 1866 Edit this on Wikidata
Tynemouth Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ionawr 1900 Edit this on Wikidata
Penarth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Coleg Malvern Edit this on Wikidata
Galwedigaethcricedwr, chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Young yn Tynemouth, Swydd Northampton, yn blentyn i Charles Octavius Young, perchennog llongau, a Margaret Emily (née Avery) ei wraig, fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Malvern, Swydd Gaerwrangon.

Ym 1899 priododd Blanche Kilminster. Bu farw'n di blant llai na flwyddyn ar ôl priodi, yn ei gartref ym Mhenarth yn 33 mlwydd oed.[2] Claddwyd ei weddillion ym mynwent Cathays, Caerdydd. [3]

Gyrfa rygbi golygu

Er iddo gael ei eni yn Tynemouth yng Ngogledd Lloegr, symudodd Young i Gymru lle daeth yn nodedig fel sbortsmon. Ei glwb haen uchaf cyntaf oedd Caerdydd, ac wrth chwarae gyda'r tîm fe'i dewiswyd i gynrychioli Cymru yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1886, yn erbyn Lloegr. O dan gapteiniaeth Charlie Newman, roedd Young yn un o bum chwaraewr o Gaerdydd i gynrychioli Cymru ar y diwrnod, gyda’r cyd-chwaraewyr Billy Douglas a Dai Lewis yn ymuno â Young fel enillwyr eu capiau cyntaf. Ei ail gap a'i olaf oedd yng ngêm nesaf Pencampwriaeth 1886, y tro hwn yn erbyn yr Alban. Colli bu hanes Cymru eto.

Yn ystod tymor 1886/87, cafodd Young gapteniaeth Caerdydd, a ddaliodd am ddau dymor. [4]

Gemau rhyngwladol golygu

Cymru [5] golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883–1983. Grafton Street, Llundain: Willow Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Griffiths, Terry (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. Llundain: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau golygu

  1. Cricketarchive.com Player profiles
  2. "DEATH OF GEORGE YOUNG - The Western Mail". Abel Nadin. 1900-01-23. Cyrchwyd 2021-05-13.
  3. "OLD WELSH INTERNATIONAL FOOTBALLER'S FUNERAL - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1900-01-25. Cyrchwyd 2021-05-13.
  4. Marshall, Francis Football; the Rugby union game (1892) Cassell and company Ltd. tud 265
  5. Smith (1980), tud 474.