Athronydd Gwyddeleg ac Esgob Anglicanaidd Cloyne oedd George Berkeley (/ˈbɑːrkli/; 12 Mawrth 168514 Ionawr 1753). Roedd yn esboniwr blaenllaw ym maes athronyddol empiriaeth. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ddamcaniaeth o "immaterialism" ("anfaterioliaeth") sy'n gwadu bodolaeth sylwedd materol ac yn hytrach yn dadlau mai dim ond syniadau ym meddyliau canfyddwr yw gwrthrychau cyfarwydd fel byrddau a chadeiriau ac, o ganlyniad, na allant fodoli heb gael eu canfod.

George Berkeley
Ganwyd12 Mawrth 1685 Edit this on Wikidata
Cill Chainnigh Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ionawr 1753 Edit this on Wikidata
Rhydychen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, offeiriad Anglicanaidd, ysgrifennwr, gwybodeg, athronydd gwyddonol, metaffisegydd, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
SwyddDeon Derry, Deon Dromore Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDe Motu, An Essay Towards a New Theory of Vision, A Treatise Concerning the Principles of Human Knowledge, Three Dialogues between Hylas and Philonous, The Theory of Vision, or Visual Language, The Analyst, Siris, The Querist Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadJohn Locke, Nicolas Malebranche Edit this on Wikidata
MudiadEmpiriaeth, Anfaterioliaeth Edit this on Wikidata
TadWilliam Berkeley Edit this on Wikidata
PriodAnne Forster, Anne Forster Edit this on Wikidata
PlantLucia Berkeley, Henry Berkeley, George Berkeley Edit this on Wikidata
llofnod

Ym 1709, cyhoeddodd Berkeley ei waith mawr cyntaf, An Essay Towards a New Theory of Vision ("Traethawd ynglŷn â Damcaniaeth Newydd o Olwg"), lle bu’n trafod cyfyngiadau golwg ddynol a datblygu’r theori nad gwrthrychau materol yr ydym yn eu gweld, ond yn hytrach golau a lliw. Cyhoeddwyd ei brif waith athronyddol, A Treatise Concerning the Principles of Human Knowledge ("Traethawd ynghylch Egwyddorion Gwybodaeth Ddynol"), ym 1710. Cafodd hyn dderbyniad gwael gan y cyhoedd, felly fe'i hailysgrifennodd ar ffurf deialog a'i gyhoeddi o dan y teitl Three Dialogues between Hylas and Philonous ("Tair Ymgom rhwng Hylas a Philonous") ym 1713.

Cyfeiriadau golygu