George Essex Evans

Bardd Eingl-Gymreig yn Awstralia

Roedd George Essex Evans (18 Mehefin, 186310 Tachwedd, 1909) yn Gymro a daeth y un o feirdd mwyaf poblogaidd Awstralia ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20g.[1]

George Essex Evans
FfugenwChristophus, Coolabah, Drayton Edit this on Wikidata
Ganwyd18 Mehefin 1863 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw10 Tachwedd 1909 Edit this on Wikidata
o carreg fustl Edit this on Wikidata
Toowoomba Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Baner Awstralia Awstralia
Galwedigaethbardd, newyddiadurwr, ffermwr, golygydd, gwas sifil Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • The Queenslander Edit this on Wikidata
TadJohn Evans Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Evans yn Llundain yn fab i John Evans QC cyn Aelod Seneddol Rhyddfrydol Hwlffordd rhwng 1847 a 1852 [2] a Mary Ann merch Titus Owen ei ail wraig. Roedd ei dad yn 68 mlwydd oed pan ganwyd George a bu farw ym mis Hydref 1864 pan oedd George yn 1. Symudodd y teulu yn ôl i Sir Benfro a fu George yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Hwlffordd. Symudodd y teulu i Ynys Jersey lle fu George yn ddisgybl yng Ngholeg St James.[1]

Gyrfa golygu

Bwriad Evans oedd ymuno a'r fyddin wedi gadael yr ysgol ond dechreuodd mynd yn drwm ei glyw a bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'r syniad. Gyda ffortiwn y teulu yn dirywio penderfynodd Evans, John ei hanner frawd a'i ddwy hanner chwaer ymfudo i Queensland, Awstralia.

 
George Essex Evans

Cafodd y brodyr fferm yn Allora ar y Darling Downs ond anafwyd George mewn damwain farchogaeth a bu’n gweithio fel athro a gohebydd amaethyddol i’r Queenslander.[3] Ym 1883 ymunodd ag alldaith arolygu i wlad y Gwlff, yna ailgydiodd yn ffermio cyn ymuno â'r gwasanaethau cyhoeddus ym 1888 fel beili yn yr Adran Tiroedd. Roedd yn glerc yn y Swyddfa Batentau rhwng 1891-93, yna daeth yn gofrestrydd genedigaethau, marwolaethau a phriodasau yn Toowoomba.[4]

Bardd a Llenor golygu

Wedi dechrau ei yrfa yn y gwasanaethau cyhoeddus dechreuodd cyhoeddi cerddi yng nghylchgronau Awstralia a Phrydain. Ym 1892 a 1883 golygodd cylchgrawn llenyddol o'r enw The Antipodean ar y cyd a Banjo Paterson, er i'r cylchgrawn gwerthu dros 13 mil o rifau nid oedd yn llwyddiant ariannol. Ceisiodd adfer y cylchgrawn ym 1897 ond methiant fu eto. Rhwng 1902 a 1905 bu'n colofnydd rheolaidd ar gyfer y Darling Downs Gazette a'r Toowoomba Chronicle. Ym 1905 cyhoeddodd papur newydd wythnosol ei hun Rag a barodd am flwyddyn yn unig.

Ym 1891 cyhoeddwyd ei gyfrol barddoniaeth yn Llundain The Repentance of Magdalene Despar and Other Poems.[5] Cyhoeddodd ei ail gyfrol Loraine and Other Verses ym 1898 a The Secret Key and Other Verses ym 1906. Ym 1928 cyhoeddwyd blodeugerdd o'i waith ar ôl ei farwolaeth.[6]

Roedd llawer o ganeuon Evans yn rhai gwladgarol oedd yn canu clodydd Awstralia. Er bod rhai beirniaid fel A. G. Stephens yn cwyno bod ei ganu yn or- syml ac ystrydebol roedd yn boblogaidd ymysg y cyhoedd a bu rhai yn priodoli ei ganu i ran o lwyddiant yr ymgyrch i ffurfio Ffederasiwn Awstralia. Wedi ei farwolaeth dywedodd Alfred Deakin (ei hun o dras Gymreig), Prif Weinidog Awstralia, mae Evans oedd "Bardd Cenedlaethol Awstralia".[1]

Teulu golygu

Priododd Evans ym 1899, ei wraig oedd Blanch Hopkins (Eglinton cynt) gwraig weddw gyda dau o blant. Bu iddynt un mab.[3]

Marwolaeth golygu

Bu farw yn Toowoomba o gymhlethdodau a gododd wedi llawdriniaeth am gerrig fustl yn 46 mlwydd oed. Codwyd cofgolofn i'w anrhydeddu yn Toowoomba a chynhelir darlith coffa flynyddol iddo yn y dref.[7] Cyhoeddwyd cyfrol goffa iddo ym 1913 gan H. A. Tardent, The life and poetry of George Essex Evans oedd yn seiliedig ar ei draethawd buddugol am y bardd yn Eisteddfod Brisbane yn gynharach yn y flwyddyn. Mae copi o'r llyfr ar gael i'w ddarllen, heb dal, ar wefan Trove Llyfrgell Genedlaethol Awstralia.[8]

Llyfryddiaeth golygu

  • The Repentance of Magdalene Despar and Other Poems, 1891[9]
  • Loraine and other Verses, 1898[10]
  • The Sword of Pain, 1905[11]
  • The Secret Key and Other Verses, 1906[12]
  • Kara, and other verses, 1910[13]
  • The Collected Verse of G. Essex Evans, 1928[14]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 O'Hagan, M. D., "Evans, George Essex (1863–1909)", Australian Dictionary of Biography (National Centre of Biography, Australian National University), http://adb.anu.edu.au/biography/evans-george-essex-6121, adalwyd 2020-02-07
  2. Williams, William Retlaw The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895
  3. 3.0 3.1 "George Essex Evans - oi". oxfordindex.oup.com. doi:10.1093/oi/authority.20110803095801937. Cyrchwyd 2020-02-07.[dolen marw]
  4. "Evans, George Essex (1863–1909), poet and journalist | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/33038. Cyrchwyd 2020-02-07.
  5. George Essex Evans (1891). The Repentance of Magdalene Despar and Other Poems. Sampson Low, Marston , Searle & Rivington.
  6. "Australian Poetry Library - George Essex Evans". www.poetrylibrary.edu.au. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-31. Cyrchwyd 2020-02-07.
  7. Christopher Lee Monumental Authority and Regional Identity: The Municipal Canonisation of George Essex Evans. Proceedings: Association for the Study of Australian Literature, Sixteenth Annual Conference 3-8 July 1994 Canberra ADFA 1995 tud. 93-99
  8. "The life and poetry of George Essex Evans : essays written for the Brisbane 1913 Eisteddfod". nla.gov.au. Cyrchwyd 2020-02-07.
  9. Evans, George Essex (1891), The repentance of Magdalene Despar : and other poems, Low, Marston, http://trove.nla.gov.au/work/11321072, adalwyd 7 Hydref 2020
  10. Evans, George Essex (1898), Loraine and other verses, George Robertson & Co, http://trove.nla.gov.au/work/17882830, adalwyd 7 Hydref 2020
  11. Evans, George Essex (1905), The sword of pain, Weston & Harrison, http://trove.nla.gov.au/work/18653181, adalwyd 7 Hydref 2020
  12. Evans, George Essex; University of Sydney. Library. Scholarly Electronic Text and Image Service (1998), The secret key and other verses, University of Sydney Library, Scholarly Electronic Text and Image Service, http://trove.nla.gov.au/work/11322193, adalwyd 7 Hydref 2020
  13. Evans, George Essex (1910), Kara and other verses, Angus and Robertson, http://trove.nla.gov.au/work/18993826, adalwyd 7 Hydref 2020
  14. Evans, George Essex (1928), The collected verse of G. Essex Evans (Memorial ed.), Angus and Robertson, http://trove.nla.gov.au/work/12446757, adalwyd 7 Hydref 2020