George Fox

ysgrifennwr, diwinydd (1624-1691)

Arweinydd crefyddol o Sais a sylfaenydd Crynwriaeth a Cymdeithas Grefyddol Cyfeillion oedd George Fox (Gorffennaf 1624 - 13 Ionawr 1691). Fe'i ganwyd yn Fenny Drayton, Swydd Gaerlŷr, Lloegr.

George Fox
GanwydGorffennaf 1624, 1624 Edit this on Wikidata
Caerlŷr Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ionawr 1691 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwinydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PriodMargaret Fell Edit this on Wikidata
llofnod

Cafodd ei fagu yn Biwritan ond yn ddyn ifanc cafodd weledigaeth o'r "goleuni mewnol" a dechreuodd ymosod yn eiriol ar yr eglwys sefydledig a ffurfioldeb o bob math mewn crefydd. Dechreuodd bregethu yn 1647. Ni fedrai oddef offeiriaid o unrhyw fath, na milwyr a milwriaeth. Dioddefodd ef a'i ddilynwyr erledigaeth am flynyddoedd.

Ymwelodd â Chymru a'r Alban lle enillodd ddilynwyr newydd. Teithiodd yn ogystal i Jamaica, Barbados, America, Yr Iseldiroedd a'r Almaen. Ymhlith ei brif disgyblion oedd John ap John yng Nghymru, Robert Barclay a William Penn, sylfaenydd Pennsylvania a fu'n gartref i nifer fawr o Grynwyr alltud.

Llyfryddiaeth golygu

  • Journal (1874). Cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.

Gweler hefyd golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.