George Lort Phillips
Roedd George Lort Phillips (4 Gorffennaf 1811 – 30 Hydref, 1866) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Benfro rhwng 1861 a 1866 [1].
George Lort Phillips | |
---|---|
Ganwyd | 4 Gorffennaf 1811 |
Bu farw | 30 Hydref 1866 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | John Lort Phillips |
Priod | Isabel Georgina Allen |
Bywyd Personol golygu
Ganwyd Phillips yn Stokeham, Dyfnaint yn fab i John Lort Phillips, ac Agusta Ilburt ei wraig.
Cafodd ei addysgu yn Harrow a Choleg y Drindod, Caergrawnt.
Priododd Isabella Georgina unig ferch John Hensleigh Allen, Creselly (AS Penfro 1818 - 1826). Ni fu iddynt blant[2].
Gyrfa golygu
Ar farwolaeth Syr William Barlow ym 1851 etifeddodd Phillips ystadau Lawrenny, Rhosfarced a Nash.
Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Benfro ym 1843 a bu’n Ynad Heddwch ar fainc Sir Benfro.
Gyrfa Wleidyddol golygu
Ym 1861 dyrchafwyd Aelod Seneddol Sir Benfro, yr Is-iarll Emlyn, i Dŷ’r Arglwyddi ar farwolaeth ei dad, Iarll Cawdor, a bu isetholiad. Safodd y Cyrnol Hugh Owen Owen ar ran y Blaid Ryddfrydol a Phillips ar ran y Ceidwadwyr. Enillwyd y sedd yn weddol gyffyrddus gan Phillips:
Isetholiad Sir Benfo 1861 Etholfraint: 2,700 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | George Lort Phillips | 1,194 | 54.9 | ||
Rhyddfrydol | Y Cyrnol Hugh Owen Owen | 979 | 45.1 | ||
Mwyafrif | 215 | ||||
Y nifer a bleidleisiodd | 77.4 | ||||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd |
Cadwodd y sedd yn ddiwrthwynebiad yn etholiad cyffredinol 1865 a’i dal hyd ei farwolaeth ym 1866.
Marwolaeth golygu
Bu farw wedi damwain wrth hela yn ei gartref, Castell Lawrenny, yn 55 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys Hwlffordd[3].
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the Principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 adalwyd 4 Medi 2017
- ↑ Annals and Antiquities of the Counties and County Families of Wales, Containing a Record of All Ranks of the Gentry ... with Many Ancient Pedigrees and Memorials of Old and Extinct Families – Thomas Nicholas adalwyd 4 Medi 2017
- ↑ Papurau Newydd Cymru Arlein Potter's Electric News 7 Tachwedd 1866 THE LATE COUNTY MEMBER adalwyd 4 Medi 2017
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Is-iarll Emlyn |
Aelod Seneddol Sir Benfro 1861 – 1866 |
Olynydd: James Bevan Bowen |