Geraint Todd

actor a aned yn 1980

Actor Cymreig yw Geraint Wyn Todd (ganwyd 8 Awst 1979). Mae'n hanu o Bontypridd ac mae wedi chwarae sawl prif ran mewn dramau a chomedïau Cymraeg, yn fwyaf adnabyddus am ei rannau yn Pam Fi Duw, Cowbois ac Injans rhwng 2006 a 2007 a Pobol y Cwm o 2011 ymlaen.

Geraint Todd
Ganwyd1980 Edit this on Wikidata
Pontypridd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, ffotograffydd, actor teledu Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Dechreuodd Geraint Todd ei yrfa actio tra yn yr ysgol, gyda rhannau ar raglenni teledu fel Halen yn y Gwaed, Pam Fi, Duw? a rhan fach yn Pobol y Cwm.

Rhwng 1997 a 2000 fe astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, lle raddiodd gyda gradd mewn Hanes a Llenyddiaeth Saesneg. Er ei fod yn frwd am actio, roedd yn ymwybodol fod rhai actorion yn cael gwaith achlysurol iawn felly dywedodd ei fod am gwblhau ei radd fel cynllun wrth gefn. Yn ystod ei flwyddyn olaf yn y brifysgol, cafodd ran yn Y Palmant Aur. Fe weithiodd yn gyson fel actor wedi hynny ac fe ddywedodd fod ei wedi mwynhau gymaint ar ôl blwyddyn o waith ei fod yn bendant barhau ym myd actio fel gyrfa.[1]

Ar ôl graddio, fe weithiodd Todd ar nifer o gyfresi drama yng Nghaerdydd o 2000 i 2002 yn cynnwys A Mind to Kill, Y Tŷ, The Bench a Iechyd Da. Fe wnaeth leisio nifer o hysbysebion radio hefyd[2] a threuliodd fis ar daith theatr addysg o gwmpas ysgolion Cymru ar ran Cyngor Llyfrau Cymru, er mwyn hyrwyddo darllen i bobl ifanc. Cafodd y cyfle i gyflwyno dwy gyfres o raglen gerddoriaeth a theithio Bicini a enillodd Wobr Pobl Ifanc yng Ngŵyl Ffilm a Theledu Celtaidd yn 2001.

Yn Mawrth 2002, fe ffilmiodd y sebon Xtra, yng ngogledd Cymru, ac ail gyfres yn 2003. Hefyd yn 2003 fe ffilmiodd y gyfres ddramatig tri-rhan Triongl.

Yn 2004 fe weithiodd ar ffilm fer o'r enw Walking Sleep gyda ffrind, Gareth Bryn Evans, a chafodd fersiwn Gymraeg ei wneud ar ddechrau 2005. Fe ddangoswyd y ffilm yng Ngŵyl Ffilmiau Caerdydd. Fe weithiodd hefyd ar y gyfres ddrama Amdani a lleisiodd y fersiwn Gymraeg o'r gyfres anime boblogaidd Beyblade, gydag ail gyfres yn cael ei recordio yn 2005.

Yn 2006 cafodd Todd brif ran fel David Manning (Manny) yn y ddrama-gomedi Cowbois ac Injans, ddarlledwyd ar S4C yn Hydref 2006 and Mawrth 2007. Yn 2008 chwaraeodd ran Merlin the Magician yn y sioe deledu Herio’r Ddraig.[3]

Fe ymunodd â chast rheolaidd Pobol y Cwm yn 2011 ac roedd ei gymeriad Ed Charles yn byw a gweithio yn y dafarn leol, Y Deri. Fe ymddangosodd fel yr athro Steffan Young yng nghyfres ddrama Gwaith/Cartref yn ystod 2012.[1]

Bywyd personol golygu

Mae Todd hefyd yn ffotograffydd proffesiynol.[4] Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig a'i fab.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Geraint Todd on his part in Gwaith/Cartref on S4C". North Wales Daily Post. 28 April 2012.
  2. "http://www.monstervoice.co.uk/artist-details.asp?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-25. Cyrchwyd 2015-12-23. External link in |title= (help)
  3. Ropstad, Mari (4 September 2008). "Geraint brings a touch of magic to new show". WalesOnline. Cyrchwyd 30 September 2010.
  4. http://www.gerainttodd.com/

Dolenni allanol golygu