Gwas sifil Seisnig, a ysgrifennodd weithiau o dan yr "enw hudol" Scire oedd Gerald Brousseau Gardner (13 Mehefin 1884 - 12 Chwefror 1964). Roedd e'n anthropolegwr, yn archeolegwr amaturaidd, yn ysgrifennwr, yn arbenigwr mewn arfau, yn ocwltiwr, ac yn dad i'r grefydd Neo-Baganaidd Wica.

Gerald Gardner
GanwydGerald Brousseau Gardner Edit this on Wikidata
13 Mehefin 1884 Edit this on Wikidata
Blundellsands Edit this on Wikidata
Bu farw12 Chwefror 1964 Edit this on Wikidata
Y Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd, anthropolegydd, offeiriad, sgriptiwr, ysgrifennwr, ocwltydd, archeolegydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amWitchcraft Today Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata

Ym 1954, ysgrifennodd Gardner ei lyfr cyntaf ynglŷn â Dewiniaeth a Wica; llyfr o'r enw Witchcraft Today.

Dywedodd fod Wica yn oroesiad o gwlt y wrach Paganaidd, cyn-Gristnogol. Dechreuodd e'r traddodiad Wica Gardneraidd ei hun yn fuan ar ôl cyhoeddi'i lyfr olaf ynghylch y pwnc.

Dolenni allanol golygu