Mae Gerald Jones (ganwyd 21 Awst 1970) yn wleidydd Plaid Lafur Prydeinig. Mae'n Aelod Seneddol (AS) dros Merthyr Tudfil a Rhymni ers etholiad mis Mai 2015.

Gerald Jones
Ganwyd21 Awst 1970 Edit this on Wikidata
Tredegar Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, Shadow Minister for Wales Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.geraldjones.co.uk Edit this on Wikidata

Bywyd personol golygu

Ganwyd Gerald Jones yn 1970 yn Phillipstown yn Nhredegar yng ngogledd Cwm Rhymni.

Cyn dod yn Aelod Seneddol, bu'n gweithio am 15 mlynedd yn y sector drydyddol, yn bennaf yn ymwneud â gwaith cymunedol lle bu'n cefnogi elusennau a grwpiau cymunedol gyda cheisiadau am arian a gofynion hyfforddiant. Daeth ei ddiddordeb yn hyn o ganlyniad i leihad diwydiannol yn yr ardal yn 1980, a streic y gloywr 1984-5, pan roedd Gerald yn 14 mlwydd oed.

Mae'n agored hoyw ac yn cyflogi ei bartner, Tyrone Powell fel ei Uwch Gynorthwy-ydd Seneddol.

Gyrfa wleidyddol golygu

Ymunodd a'r Blaid Lafur yn 1988, gan fod yn nifer o swyddi megis Cadeirydd cangen Tredegar ac etholaeth Merthyr Tudfil a Rhymni. Rhwng 2003 a 2015, chwaraeodd ran yn nifer o etholiadol gan fod yn ymgeisydd ac asiant.

Etholwyd Gerald fel Cynghorydd Llafur i Gyngor Sir a Bwrdeistref Caerffili yn 1995, yn edrych ar ôl ei ardal o Dredegar. Am 20 mlynedd, cynrychiolodd ei gymuned.

Roedd yn Is-Arweinydd y Cyngor rhwng 2012 a 2015 ac hefyd wedi bod yn Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am Dai, lle bu'n gyfrifol am sicrhau fod y Cyngor yn cyrraedd y Safonau Tai Cymreig. Bu hefyd yn ymgyrchydd gwrth dlodi a digartrefedd.

Mae'n aelod o'r GMB a'r Parti Cydweithredol.

Etholwyd Gerald yn Aelod Seneddol Merthyr Tudfil a Rhymni yn 2015.

Etholiad 2017 golygu

Cafodd Gerald Jones ei ail-ethol gyda 66.8% o'r bleidlais gyda mwyafrif o 16,334 o fwyafrif.

PLAID PLEIDLEISIAU % CANRAN NEWID YN Y SEDDI+/- %
Llafur Gerald Jones 22,407 66.8 +12.9
Ceidwadwyr Pauline Jorgensen 6,073 18.1 +8.0
Plaid Cymru Amy Kitcher 2,740 8.2 -1.3
UKIP David Rowlands 1,484 4.4 -14.2
Dem Rhydfrydol Bob Griffin 841 2.5 -1.6