Milwr a gwleidydd o Giwba oedd Gerardo Machado y Morales (29 Medi 187129 Mawrth 1939) a wasanaethodd yn Arlywydd Ciwba o 1925 i 1933.

Gerardo Machado
Ganwyd28 Medi 1871 Edit this on Wikidata
Santa Clara Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mawrth 1939 Edit this on Wikidata
Miami Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRepublic of Cuba Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Ciwba Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolLiberal Party of Cuba Edit this on Wikidata
Gwobr/auColer Urdd Isabella y Catholig, Croes fawr teilyngdod milwrol, adran wen Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Camajuaní yn nhalaith Villa Clara. Cyrhaeddodd reng brigadydd yn y fyddin chwyldroadol yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Ciwba (1895–98). Wedi ei orchestion yn y rhyfel, gwasanaethodd dan lywodraeth yr Arlywydd José Miguel Gómez (1909–13). Enillodd ei ffortiwn yn y 1910au drwy fentrau amaethyddol a buddsoddi mewn cwmnïau cyhoeddus. Dychwelodd i wleidyddiaeth genedlaethol yn arweinydd y Blaid Ryddfrydol yn 1920. Fe'i etholwyd yn arlywydd y wlad yn 1924, a chychwynnodd yn y swydd ar 20 Mai 1925.

Gorchmynnodd Machado raglen o weithiau cyhoeddus ar raddfa eang er mwyn lleddfu effeithiau'r Dirwasgiad Mawr. Ceisiodd yn enwedig ehangu cynnyrch siwgr y wlad i wrthsefyll y cwymp byd-eang mewn pris siwgr, prif allforyn Ciwba. Er iddo ennill cefnogaeth y mwyafrif helaeth o'r wlad ar ddechrau ei arlywyddiaeth, cafodd Machado ei feirniadu am gyfoethogi ei hunan ar bwrs y wlad, a throdd yn raddol yn unben ar Giwba. Cynhaliwyd etholiad arlywyddol 1928 heb wrthwynebiad iddo. Cyfyngwyd ar ryddid y wasg yn ystod ei ail dymor, a chynyddodd protestiadau yn ei erbyn, yn enwedig gan fyfyrwyr. Erbyn 1933, roedd anhrefn ar draws y wlad, ac ymdrechai'r Unol Daleithiau ymyrryd yn y sefyllfa drwy gyfrwng y llysgennad Sumner Welles. Cyhoeddwyd streic gyffredinol, ac o'r diwedd trodd y fyddin yn ei erbyn. Sefydlwyd llywodraeth dros dro gan Carlos Manuel de Céspedes y Quesada, a chafodd Machado ei alltudio ar 12 Awst 1933.

Bu farw ym Miami Beach, Fflorida, yn 67 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Gerardo Machado y Morales. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Medi 2019.