Geri Allen

cyfansoddwr a aned yn 1957

Pianydd a chyfansoddwraig jazz Americanaidd oedd Geri Allen (12 Mehefin 195727 Mehefin 2017).

Geri Allen
FfugenwGeri Allen-Roney Edit this on Wikidata
GanwydGeri Antoinette Allen Edit this on Wikidata
12 Mehefin 1957 Edit this on Wikidata
Pontiac, Michigan Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mehefin 2017 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Philadelphia Edit this on Wikidata
Label recordioMotéma Music Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Howard
  • Prifysgol Pittsburgh
  • Cass Technical High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethjazz pianist, athro cerdd, academydd, cynhyrchydd recordiau, cyfansoddwr, artist recordio Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddulljazz, bebop Edit this on Wikidata
PriodWallace Roney Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.geriallen.com Edit this on Wikidata

Ganwyd Allen ym Mhontiac, Michigan, ond fe'i magwyd yn Netroit[1]. Daeth i'r amlwg fel perfformiwr yn ystod yr 1980au fel rhan o'r mudiad M-Base, arddull oedd yn cyfuno elfennau o jazz rhydd gyda cherddoriaeth hip-hop. Roedd Allen yn ymwneud â jazz rhydd drwy gydol ei gyrfa - fe'i clywyd ar nifer o recordiau hwyr Ornette Coleman - heb erioed gamu'n llawn i'r maes hwnnw yn ei recordiau ei hun. Roedd ei harddull bersonol yn y 90au yn cyfuno elfennau rhydd gyda dylanwadau o gerddoriaeth glasurol.

Yn ogystal â bod yn berfformiwr pwysig, enillodd Allen glod fel addysgwraig. Bu'n Athro mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Pittsburgh, ac yn gyfarwyddwr ar y rhaglen Astudiaethau Jazz yno.

Bu farw Allen o ganser ar 27 Mehefin 2017 yn 60 oed.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Cook, Richard (2005). Richard Cook's Jazz Encyclopedia. Llundain: Penguin Books. tt. 8. ISBN 0-141-00646-3.
  2. Adlet, David R. (27 Mehefin 2017). "Geri Allen, Brilliantly Expressive Pianist, Composer and Educator, Dies at 60". WGBO. Cyrchwyd 27 Mehefin 2017.