Germaine de Staël

Nofelydd, athronydd, ac hanesydd Ffrengig oedd Anne Louise Germaine, baronne de Staël-Holstein (ganwyd Anne Louis Germaine Necker; 22 Ebrill 1766 – 14 Gorffennaf 1817) a elwir yn aml yn Madame de Staël. Trwy ei brwdfrydedd dros Ramantiaeth Almaenig a'i phwyslais ar hanes syniadau, cafodd ddylanwad ar athroniaeth Ewrop, a Ffrainc yn enwedig yn ystod y cyfnodau chwyldroadol a Napoleonig. Y bont rhwng yr Oleuedigaeth a'r mudiad Rhamantaidd yw'r ddelwedd draddodiadol o'i gwaith. Canolbwyntia'r astudiaethau diweddar amdani ar ei phwysigrwydd fel llenores a meddylwraig gwreiddiol a lwyddodd i godi uchlaw'r cyfyngiadau a orfodwyd ar ferched yn ystod ei hoes.[1]

Germaine de Staël
GanwydAnne-Louise Germaine Necker Edit this on Wikidata
22 Ebrill 1766 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw14 Gorffennaf 1817 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Genefa, Teyrnas Ffrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, perchennog salon, dyddiadurwr, beirniad llenyddol, gwleidydd, gohebydd, athronydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amOn Germany, Corinne ou l'Italie Edit this on Wikidata
TadJacques Necker Edit this on Wikidata
MamSuzanne Curchod Edit this on Wikidata
PriodErik Magnus Staël von Holstein, Albert Jean Michel de Rocca Edit this on Wikidata
PartnerBenjamin Constant, Charles-Maurice de Talleyrand-Périgord, Louis, comte de Narbonne-Lara Edit this on Wikidata
PlantAlbertine, baroness Staël von Holstein, Auguste-Louis de Staël-Holstein, Louis Alphonse de Rocca Edit this on Wikidata
PerthnasauLouis Necker, Jacques Necker de Saussure Edit this on Wikidata
llofnod
Portread o Germaine de Staël gan François Gérard, tua 1810.

Ganwyd ym Mharis i rieni Swisaidd Protestannaidd. Priododd y Barwn Staël-Holstein, diplomydd Swedaidd, ym 1786. Gadawodd Ffrainc ym 1792 yn ystod yr oes chwyldroadol, ond dychwelodd dan lywodraeth y Gyfarwyddiaeth. Cynhaliodd salon ym Mharis a fu'n ganolfan i ddeallusion a gwleidyddion o fri, ac yno enillodd enw i'w hunan fel ymddiddanwraig ffraeth. Yn ddiweddarach gwahanodd o'i gŵr a daeth yn glos i Benjamin Constant.

Ysgrifennodd ddwy nofel a ellir eu hystyried yn "rhag-ffeministaidd": Delphine (1802) a Corinne (1807). O ganlyniad i'w gwrthwynebiad i Napoleon Bonaparte bu'n rhaid iddi adael Paris ym 1803. Cyhoeddodd hefyd sawl traethawd ar athroniaeth gymdeithasol ac estheteg, a hefyd y tair cyfrol De l'Allemagne (1810) yn sgil ei thaith drwy'r Almaen. Cafodd argraffiad cyntaf y gwaith hwnnw ei ddinistrio ar orchymyn Napoleon, gan iddo ei ystyried yn "wrth-Ffrengig".

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Germaine De Staël" yn yr Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 27 Medi 2017.