Y Germaniaid (Lladin: Germani) oedd y bobloedd hanesyddol oedd yn byw yng Ngermania. Roeddynt yn ffurfio mwyafrif y boblogaeth yn yr ardal honno ond rhannant ran o'r diriogaeth â llwythau Celtaidd, ynghyd â Sgythiaid a Slafiaid yn y dwyrain. Yn ôl yr hanesydd Tacitus yn ei lyfr Germania, defnyddiai'r Rhufeiniaid yr enw i gyfeirio at y llwyth cyntaf i groesi Afon Rhein ond daeth i gael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r holl lwythau cytras oedd yn byw yr ochr arall i'r afon yn ogystal.

Germaniaid
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
Mathpobl Indo-Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysEingl-Sacsoniaid, Fandaliaid, Gothiaid, Ffranciaid Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Yr ymerodr Marcus Aurelius a'i deulu'n offrymu mewn diolch am fuddugoliaeth yn erbyn llwythau Germanaidd

Roedd cymdeithas y Germaniaid yn seiliedig ar batrymau llwythol dan benaethiaid a brenhinoedd traddodiadol. Ar sawl ystyr roedd eu diwylliant a'u ffordd o fyw yn agos i eiddo'r Celtiaid, eu cymdogion, ac yn rhan o etifeddiaeth ieithyddol, crefyddol a diwylliannol a oedd yn cynnwys pobloedd Indo-Ewropeaidd eraill fel yr Italiaid, y Groegiaid a'r pobloedd Indo-Iranaidd yn gyffredinol.