Giada De Laurentiis

actores a aned yn 1970

Awdures Americanaidd yw Giada De Laurentiis ([ˈdʒaːda paˈmɛːla de lauˈrɛnti.is]; ganwyd 22 Awst 1970) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cogydd, newyddiadurwr ac actor.[1] Hi yw cyflwynydd cyfres Food Network 'Giada at Home'.

Giada De Laurentiis
GanwydGiada Pamela De Laurentiis Edit this on Wikidata
22 Awst 1970 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethcogydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, actor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Food Network Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEveryday Italian Edit this on Wikidata
MamVeronica De Laurentiis Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Emmy 'Daytime', Gracie Awards Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.giadadelaurentiis.com/ Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Rhufain ar 22 Awst 1970. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Califfornia, Los Angeles a Le Cordon Bleu.[2]

Mae hi hefyd yn ymddangos yn rheolaidd fel cyfrannwr a chyd-westai ar raglen 'Today' (NBC) . De Laurentiis yw sylfaenydd y busnes arlwyo GDL Foods. Mae'n enillydd Gwobr Daytime Emmy Award for Outstanding Lifestyle Host, Gwobr Gracie am y Cyflwynydd Teledu Gorau, ac yn 2012, cafodd ei derbyn i 'Oriel Enwogion Coginio' y Culinary Hall of Fame.[3][4]

Magwraeth golygu

Ganwyd Giada Pamela De Benedetti ar 22 Awst 1970, yn Rhufain, yr Eidal, y plentyn hynaf i'r actores Veronica De Laurentiis a'i gŵr cyntaf, yr actor-gynhyrchydd Alex De Benedetti.[5] Roedd De Benedetti yn gydymaith agos i daid mamol Giada, y cynhyrchydd ffilm Dino De Laurentiis. Fel plentyn, roedd Giada yn aml yn dod i gegin y teulu ac yn treulio llawer o amser ym mwyty ei thad, "DDL Foodshow". Priododd ei rhieni yn Chwefror 1970 ond yn ddiweddarach ysgarodd y ddau a symudodd Giada a'i brodyr a chwiorydd i Dde California, UDA gan gymryd cyfenw eu mam.[6] [7]

Ar ôl graddio o Ysgol Uwchradd Marymount yn Los Angeles, aeth De Laurentiis i Brifysgol California, Los Angeles, gan ennill gradd mewn anthropoleg gymdeithasol ym 1996.[3][5]

Cyhoeddiadau golygu

 
Giada De Laurentiis yn arwyddo un o'i llyfrau yn Philadelphia, Pennsylvania yn 2010.
  • Everyday Italian: 125 Simple and Delicious Recipes. New York: Clarkson Potter. 2005. ISBN 978-1-4000-5258-5.
  • Giada's Family Dinners. New York: Clarkson Potter. 2006. ISBN 978-0-307-23827-6.
  • Everyday Pasta. New York: Clarkson Potter. 2007. ISBN 978-0-307-34658-2.
  • Giada's Kitchen: New Italian Favorites. New York: Clarkson Potter. 2008. ISBN 978-0-307-34659-9.
  • Giada at Home: Family Recipes from Italy and California. New York: Clarkson Potter. 2010. ISBN 978-0-307-45101-9.
  • Weeknights with Giada: Quick and Simple Recipes to Revamp Dinner. New York: Clarkson Potter. 2012. ISBN 978-0-307-45102-6.
  • Giada's Feel Good Food. New York: Clarkson Potter. 2013. ISBN 978-0-307-98720-4.
  • Happy Cooking. New York: Pam Krauss Books. 2015. ISBN 978-0-8041-8792-3.
  • Giada’s Italy. New York: Clarkson Potter. 2018. ISBN 978-0-307-98722-8.

Cyrhaeddodd Giada at Home a Weeknights with Giada "Gwerthwyr Gorau" The New York Times.[8][9]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Emmy 'Daytime' (2008), Gracie Awards (2012) .


Cyfeiriadau golygu

  1. "Dizionario d'ortografia e di pronunzia". Archifwyd o'r gwreiddiol ar Mawrth 4, 2016. Cyrchwyd Hydref 8, 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Dyddiad geni: "Giada De Laurentiis". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Giada De Laurentiis".
  3. 3.0 3.1 "Giada De Laurentiis". Food Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ionawr 1, 2013. Cyrchwyd Rhagfyr 28, 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "Giada De Laurentiis Inducted". Culinary Hall of Fame. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2012.[dolen marw]
  5. 5.0 5.1 "Giada De Laurentiis". Biography. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ionawr 2013. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. De Laurentiis, Dino (2004). Dino: The Life and Films of Dino De Laurentiis. Miramax, ISBN 978-0-7868-6902-2.
  7. Galwedigaeth: Muck Rack. dyddiad cyrchiad: 3 Ebrill 2022.
  8. "Best Sellers". The New York Times. Ebrill 18, 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Hydref 16, 2013. Cyrchwyd Rhagfyr 28, 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  9. "Best Sellers". The New York Times. Ebrill 22, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Mai 12, 2012. Cyrchwyd Rhagfyr 28, 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)